Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 36: Llinell 36:
[[ar:ويكيبيديا:ويكيبيديا ليست]]
[[ar:ويكيبيديا:ويكيبيديا ليست]]
[[arz:ويكيبيديا:ويكيبيديا مش]]
[[arz:ويكيبيديا:ويكيبيديا مش]]
[[as:Wikipedia:ৱিকিপিডিয়া কি নহয়]]
[[az:Vikipediya:Vikipediya nə deyil]]
[[az:Vikipediya:Vikipediya nə deyil]]
[[bar:Wikipedia:Wos Wikipedia ned is]]
[[bar:Wikipedia:Wos Wikipedia ned is]]

Fersiwn yn ôl 18:37, 19 Tachwedd 2011

Gwyddoniadur ar-lein ydy Wicipedia. Mae hefyd yn gymuned o bobl sydd â diddordeb mewn creu gwyddoniadur safonol, mewn awyrgylch o barch at ei gilydd. Felly, mae yna rhai pethau sy'n anaddas ar gyfer Wicipedia.

Arddull a fformat

Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia

Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia. Nid oes cyfyngiad ymarferol i'r nifer o destunau a allai ymdrin â hwy, na chyfanswm y cynnwys, ar wahân i'r ffaith fod angen gallu gwirio'r wybodaeth a'r pwyntiau eraill a gyflwynir ar y dudalen hon. Fodd bynnag, dylid nodi fod gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn a ellir gwneud, a'r hyn a ddylid gwneud, a sonnir am hyn yn yr adran gynnwys isod. O ganlyniad, nid yw'r polisi hwn yn rhoi rhwydd hynt i gynnwys popeth: rhaid i erthyglau ddilyn y polisïau cynnwys perthnasol, yn enwedig i rheiny a sonnir amdanynt yn y pum colofn.

Er mwyn sicrhau fod Wicipedia yn hawdd i'w ddefnyddio, dylid sicrhau nad yw erthyglau'n mynd yn rhy hir. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer darllenwyr sy'n defnyddio cysylltiad ffôn-ddeialu neu borwr symudol, am fod hyn yn effeithio ar yr amser mae'n cymryd i lawrlwytho tudalen (gweler Wicipedia:Hyd erthyglau). Mae rhannu erthyglau hir gan adael crynodebau digonol yn helpu erthyglau i dyfu'n naturiol (gweler Wicipedia:Crynodeb arddull). Mae gwyddoniaduron papur yn aml yn trafod rhai testunau mewn ffordd fer, ond gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth, cysylltiadau i ddolenni allanol, a diweddaru'r wybodaeth yn gyflym. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Wicipedia'n wahanol i wyddoniaduron papur, gweler y Wicipedia:Arddull.

Cynnwys

Gydag unrhyw wyddoniadur, ni ellir cynnwys gwybodaeth am ei fod yn wir neu'n ddefnyddiol yn unig. Er bod trafodaethau ynglŷn â gwerth gwyddoniadurol nifer o erthyglau, y consensws yw bod y canlynol yn enghreifftiau da o beth sy'n anaddas ar gyfer Wicipedia.

Nid geiriadur mo Wicipedia

Nid geiriadur mo Wicipedia. Nid yw erthyglau Wicipedia yn :

  1. Ddiffiniadau. Er y dylai erthyglau ddechrau gyda diffiniad da a disgrifiad o un testun, dylent ddarparu mathau eraill o wybodaeth am y pwnc hynny hefyd. Os yw erthygl yn cynnwys diffiniad yn unig, dylid ehangu'r erthygl gyda gwybodaeth wyddoniadurol os yn bosib.
  2. Gofnodion geiriadurol. Mae erthyglau gwyddoniadurol am berson, grŵp, lle, peth digwyddiad a.y.b. Weithiau, gall gair neu ymadrodd fod yn bwnc gwyddoniadurol, megis Macedonia (terminoleg) neu athroniaeth; fodd bynnag, anaml iawn y bydd erthygl yn cynnwys diffiniadau penodol neu esboniadau defnydd o deitl yr erthygl. Mae erthyglau am bwysigrwydd diwylliannol neu fathemategol rhifau unigol yn dderbyniol.
    Os hoffech weld wici sydd yn eiriadur, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiect Wiciadur. Dylid trawswicio diffiniadau geiriadurol i'r fan honno.
  3. Ganllaw defnydd, bratiaith a/neu idiomau. Croesawir erthyglau disgrifiadol am ieithoedd, tafodieithoedd, neu fathau o fratiaith (megis Cockney). Serch hynny, ni chroesawir canllawiau ieithyddol ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu'r iaith.
    Os hoffech weld Wici sydd yn gasgliad o lawlyfrau, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiect Wicillyfrau. Dylid trawswicio canllawiau ar gyfer dysgwyr yr iaith i'r fan honno.

Nid cyhoeddwr syniadau gwreiddiol mo Wicipedia

Nid lle i gyhoeddi eich syniadau neu ddehongliadau personol ydy Wicipedia. Nid yw'n addas ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth newydd chwaith. Yn unol â'n polisi ar ymchwil gwreiddiol, peidiwch defnyddiwch Wicipedia ar gyfer y canlynol os gwelwch yn dda:

  1. Ymchwil cynradd (gwreiddiol) megis cyflwyno theorïau a datrysiadau, syniadau gwreiddiol, ddiffinio termau, bathu geiriau newydd a.y.b. Os ydych wedi cwblhau ymchwil cynradd ar destun penodol, cyhoeddwch eich canlyniadau mewn mannau eraill e.e. cyfnodolion adolygiadau cyfoedion, ffurfiau argraffedig eraill, neu wefannau cydnabyddedig eraill. Bydd Wicipedia yn cydnabod eich gwaith ar ôl iddo gael ei gyhoeddi a'i dderbyn fel gwybodaeth a dderbynier; fodd bynnag, mae angen dyfyniadau o ffynonellau dibynadwy er mwyn profi fod y wybodaeth yn wiriadwy, ac nid barn y golygydd yn unig.
  2. Dyfeisiadau personol. Os ydych chi neu'ch ffrind yn dyfeisio'r gair cyfed, gêm yfed gyda chyfeillion, nid yw'n ddigon enwog i fod yn erthygl nes bod nifer o ffynonellau eilradd, dibynadwy ac annibynnol yn ei ddefnyddio. Nid yw Wicipedia ar gyfer pethau a ddyfeisir un diwrnod.
  3. Traethodau personol sy'n datgan eich teimladau penodol chi am bwnc, (yn hytrach na chonsensws arbenigwyr). Er mai nod Wicipedia yw crynhoi holl wybodaeth ddynol, ni ddylid defnyddio Wicipedia er mwyn ceisio gwneud barn bersonol yn rhan o'r wybodaeth honno. Mewn achosion anghyffredin lle mae safbwyntiau unigolyn yn ddigon pwysig i'w trafod, mae'n well gadael i bobl eraill ysgrifennu amdanynt. Mae croeso i chi gynnwys traethodau personol am bynciau sy'n ymwneud â Wicipedia ar eich gofod-enw defnyddiwr.
  4. Fforymau trafod. Ceisiwch gadw ar y dasg o greu gwyddoniadur ar-lein os gwelwch yn dda. Gallwch sgwrsio â phobl am bynciau sy'n ymwneud â Wicipedia ar eu tudalennau sgwrs defnyddiwr, a dylech ddatrys problemau gydag erthyglau ar y tudalennau sgwrs priodol, ond peidiwch â mynd a'r drafodaeth i mewn i'r erthygl os gwelwch yn dda. Yn ogystal â hyn, cofiwch fod y tudalennau sgwrs yn bodoli er mwyn trafod sut i wella erthyglau; nid tudalennau trafod cyffredinol am bwnc yr erthygl mohonynt, nac ychwaith yn ddesg gymorth er mwyn cael cyfarwyddiadau neu gymorth technegol. Os hoffech ofyn cwestiwn penodol am destun, mae gan Wicipedia Ddesg Gyfeirio, a dylid gofyn cwestiynau yn y fan honno yn hytrach nag ar y tudalennau sgwrs.
  5. Newyddiaduraeth. Ni ddylai Wicipedia geisio cynnig y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau sydd newydd ddigwydd. Nid ffynhonnell gynradd mo Wicipedia. Fodd bynnag, mae ein chwaer brosiect, Wikinews yn gwneud hynny, a'i nod yw bod yn ffynhonnell gynradd. Serch hynny, nid yw'r safle hwn ar gael yn y Gymraeg. Mae gan Wicipedia nifer o erthyglau gwyddoniadurol ar bynciau o bwysigrwydd hanesyddol sydd ar y newyddion ar hyn o bryd, a gellir diweddaru'r erthyglau hyn gyda gwybodaeth gyfoes wiriadwy.