Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Powys Fadog
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ga:Powys Fadog
Llinell 43: Llinell 43:
[[en:Powys Fadog]]
[[en:Powys Fadog]]
[[eu:Powys Fadog]]
[[eu:Powys Fadog]]
[[ga:Powys Fadog]]
[[ru:Поуис Вадог]]
[[ru:Поуис Вадог]]

Fersiwn yn ôl 10:05, 16 Tachwedd 2011

Baner Powys Fadog

Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffudd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffudd Maelor.

Derbyniodd Gruffudd Maelor I gantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffudd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.

Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog

Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.

Cantrefi a chymydau

Sylwer nad arosodd pob un o'r cantrefi a chymydau hyn yn rhan o Bowys Fadog.