Philip II, brenin Macedon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: hy:Փիլիպոս II Մակեդոնացի
archaeoleg
Llinell 8: Llinell 8:


Gorfchygodd gynghrair y Thebaid a'r Atheniaid yn [[Brwydr Chaeronea (338 CC)|Mrwydr Chaeronea]] yn [[338 CC]], ac yn [[337 CC]] sefydlodd [[Cynghrair Corinth|Gynghrair Corinth]]. Yn [[336 CC]], roedd yn paratoi ar gyfer ymosodiad ar Ymerodraeth Persia, ond ym mis Hydref 336 CC, llofruddiwyd ef yn [[Vergina|Aegae]], hen brifddinas Macedon, gan [[Pausanias o Orestis]], un o'i warchodlu ei hun.
Gorfchygodd gynghrair y Thebaid a'r Atheniaid yn [[Brwydr Chaeronea (338 CC)|Mrwydr Chaeronea]] yn [[338 CC]], ac yn [[337 CC]] sefydlodd [[Cynghrair Corinth|Gynghrair Corinth]]. Yn [[336 CC]], roedd yn paratoi ar gyfer ymosodiad ar Ymerodraeth Persia, ond ym mis Hydref 336 CC, llofruddiwyd ef yn [[Vergina|Aegae]], hen brifddinas Macedon, gan [[Pausanias o Orestis]], un o'i warchodlu ei hun.

==Carnedd Philip yn Verginia==
Yn 1977 darganfyddodd yr archaeolegydd Groegaidd Manolis Andronikos Yn nhref [[Verginia]] garnedd a man claddu posibl Philip.


[[Categori:Genedigaethau 382 CC]]
[[Categori:Genedigaethau 382 CC]]

Fersiwn yn ôl 04:42, 16 Tachwedd 2011

Philip II ar fedal o Tarsus.

Philip II, brenin Macedon, Groeg: Φίλιππος Β' (383 CC - 336 CC) oedd brenin (basileus) teyrnas Macedon o 359 CC hyd ei farwolaeth. Ef a osododd sylfeini grym Macedonia, a ddefnyddiwyd gan ei fab, Alecsander Fawr, i goncro Ymerodraeth Persia.

Roedd Philip yn fab ieuengaf i Amyntas III, brenin Macedon ac Eurydice. Bu'n wystlon yn Thebai pan oedd yn ieuanc, yn y cyfnod pan oedd Thebai yn ddinas gryfaf Groeg, a chafodd ei addysgu yno gan y cadfridog enwog Epaminondas. Dychwelodd i Facedonia yn 364 CC, ac wedi marwolaeth ei frodyr Alexander II a Perdiccas III, daeth yn frenin yn 359 CC.

Canolbwyntiodd Philip ar gryfhau'r fyddin, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros y bobloedd o'i amgylch. Yn 355 CC, priododd Olympias, merch brenin y Molossiaid. Ganed Alecsander iddynt y flwyddyn wedyn. Yn 354 CC, collodd un llygad wrth warchae ar ddinas Methone, oedd ym meddiant Athen. Yn raddol, ymestynnodd ei awdurdod dros ddinasoedd Groeg, er gwaethaf ymdrechion y gwladweinydd Athenaidd Demosthenes i ffurfio cynghrair yn ei erbyn. Yn 342 CC ymgyrchodd yn erbyn y Scythiaid, gan gipio Eumolpia a'i hail-enwi yn Philippopolis (Plovdiv heddiw).

Gorfchygodd gynghrair y Thebaid a'r Atheniaid yn Mrwydr Chaeronea yn 338 CC, ac yn 337 CC sefydlodd Gynghrair Corinth. Yn 336 CC, roedd yn paratoi ar gyfer ymosodiad ar Ymerodraeth Persia, ond ym mis Hydref 336 CC, llofruddiwyd ef yn Aegae, hen brifddinas Macedon, gan Pausanias o Orestis, un o'i warchodlu ei hun.

Carnedd Philip yn Verginia

Yn 1977 darganfyddodd yr archaeolegydd Groegaidd Manolis Andronikos Yn nhref Verginia garnedd a man claddu posibl Philip.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol