Castell Odo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
B Robot: Yn fformatio'r rhif ISBN |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO) ISBN |
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1 |
||
{{Bryngaerau Cymru}} |
{{Bryngaerau Cymru}} |
Fersiwn yn ôl 20:18, 13 Tachwedd 2011
Bryngaer sy'n dyddio o ddechrau Oes yr Haearn ac a leolir gerllaw Aberdaron, Gwynedd, yw Castell Odo (cyfeiriad grid SH187285). Mae'n gorwedd ger y ffordd B4413, rhyw filltir a hanner o'r pentref.
Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi. Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd Oes yr Efydd, felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.
Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1