Ochr 1: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cwmcafit (sgwrs | cyfraniadau)
angen ffynhonellau.
Llinell 29: Llinell 29:


Mae Ochr 1 yn hynod o gynhyrchiol mewn amrywiaeth o wyliau Cymraeg. Ym mis Chwefror, cynhelir noson [[Gwobrau’r Selar]] sy’n gwobrwyo bandiau ac unigolion y sîn roc Gymraeg. Yn yr wythnosau cyn y gwobrau, mae Ochr 1 yn cynhyrchu a rhyddhau fideos ar YouTube yn datgelu’r rhestrau byrion ac ar y noson ei hun, mae’r rhaglen yn cyfweld â’r enillwyr ac yn cofnodi’r noson fel bod modd ail-fyw’r cyffro i’r rhai oedd yno, neu alluogi’r rhai oedd methu bod yn rhan o’r noson. Yn ystod wythnos yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]], mae Ochr 1 yn darlledu bandiau yn chwarae’n fyw o nosweithiau poblogaidd Maes B. Yn ogystal â hyn, mae llawer o fideos o’r setiau byw, sesiynau acwstig a chyfweliadau gyda’r bandiau ar gael ar sianel YouTube Ochr 1 fel bod modd ail-wylio eitemau’r rhaglen.
Mae Ochr 1 yn hynod o gynhyrchiol mewn amrywiaeth o wyliau Cymraeg. Ym mis Chwefror, cynhelir noson [[Gwobrau’r Selar]] sy’n gwobrwyo bandiau ac unigolion y sîn roc Gymraeg. Yn yr wythnosau cyn y gwobrau, mae Ochr 1 yn cynhyrchu a rhyddhau fideos ar YouTube yn datgelu’r rhestrau byrion ac ar y noson ei hun, mae’r rhaglen yn cyfweld â’r enillwyr ac yn cofnodi’r noson fel bod modd ail-fyw’r cyffro i’r rhai oedd yno, neu alluogi’r rhai oedd methu bod yn rhan o’r noson. Yn ystod wythnos yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]], mae Ochr 1 yn darlledu bandiau yn chwarae’n fyw o nosweithiau poblogaidd Maes B. Yn ogystal â hyn, mae llawer o fideos o’r setiau byw, sesiynau acwstig a chyfweliadau gyda’r bandiau ar gael ar sianel YouTube Ochr 1 fel bod modd ail-wylio eitemau’r rhaglen.

==Esblygiad==
Bu i cyfres Ochr 1 ddod i ben ac yn 2019 lansiwyd [[Lŵp]] fel platfform gerddoriaeth gyfoes Gymraeg S4C. Mae Lŵp yn cynnwys rhaglen ar y Sianel ond mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch ar-lein ar y [[cyfryngau cymdeithasol]] fel [[Youtune]], [[Facebook]], [[TikTok]] a [[Twitter]].<ref>{{cite web |url=https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/33228/s4c-yn-lawnsio-lp---mwy-o-gerddoriaeth-ar-y-sianel/ |title=S4C yn lawnsio Lŵp – mwy o gerddoriaeth ar y sianel |publisher=[[S4C]] |date=Awst 2019}}</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:36, 17 Awst 2022

Ochr 1
Genre Cerddoriaeth
Cyflwynwyd gan Griff Lynch
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 3
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Antena
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Rhediad cyntaf yn 2013–

Rhaglen gerddoriaeth ar S4C yw Ochr 1 sy'n rhoi sylw i gerddoriaeth Gymraeg amgen a chyfoes o bob math. Cychwynnodd y gyfres yn 2013 fel rhan o arlwy Y Lle ar gyfer pobl ifanc. Mae wedi ei chyflwyno gan Griff Lynch.

Mae amrywiaeth o bethau’n cael eu cynnwys ar Ochr 1 megis sesiynau byw yn y stiwdio gan fandiau fel Sŵnami, Yws Gwynedd, Cowbois Rhos Botwnnog, Kizzy Crawford a mwy, yn ogystal â fideos wedi’u cyfarwyddo gan rai o gyfarwyddwyr mwyaf cyffrous Cymru a chyfweliadau gydag artistiaid y sîn gerddorol Gymraeg, mewn amryw o leoliadau ledled Cymru. Mae artistiaid poblogaidd megis HMS Morris, Candelas, Y Pencadlys ac Yr Eira wedi gwneud eu hymddangosiad teledu cyntaf ar Ochr 1.

Rhifynau arbennig

Yn ogystal â'r rhaglenni arferol, mae sawl rhaglen arbennig wedi’i darlledu gan gynnwys taith y band ifanc poblogaidd, Swnami, yng ngŵyl Eurosonic yn Groningen, Yr Iseldiroedd. Yma, roedd modd gweld taith y bechgyn a’r perfformiad byw. Hefyd, darlledwyd rhaglen arbennig am y band pop dychmygol o’r 70au, Saron - un o brosiectau’r label Klep Dim Trep. Penderfynodd Ochr 1 wneud rhaglen hanner awr, fel ‘rhaglen goll o’r archif’, o’r enw Cil y Drws o 1974. Roedd y rhaglen yn dilyn hanes y grwp yn eu dyddiau cynnar, ac yna yn cael cip olwg ar yr hyn roeddent yn recordio yn y stiwdio. Yn ogystal â hynny, roedd y band yn perfformio a sgwrsio gyda'r cyflwynydd Englyn Williams yn y stiwdio. Roedd y rhaglen 'gomedi cerddorol' wedi ei ffilmio yn yr un steil â rhaglenni pop Cymraeg y 70au megis Disg a Dawn, Twndish ac ati.

Rhaglen arbennig arall oedd Ochr 1: Aron Elias. Roedd Aron Elias o Borthmadog yn brif leisydd i un o grwpiau Hip-Hop mwyaf dylanwadol Cymru, Pep Le Pew. Erbyn hyn mae'n byw mewn ogof ar ochr mynyddoedd Sacromonte, ger Granada, a hynny heb ddŵr ‘na thrydan. Mae'n treulio ei ddyddiau yn bysgio am ddigon o arian i'w gynnal am y dydd, a hynny ymysg rhai o gerddorion fflamenco mwyaf medrus y byd. Gyda cherddoriaeth unigryw Aron, ynghyd â thirwedd a phensaernïaeth godidog Granada yn gefndir, mae’r rhaglen hon yn rhoi portread ar fywyd a meddylfryd un o gerddorion mwyaf dawnus ac unigryw Cymru.

Mae Ochr 1 yn hynod o gynhyrchiol mewn amrywiaeth o wyliau Cymraeg. Ym mis Chwefror, cynhelir noson Gwobrau’r Selar sy’n gwobrwyo bandiau ac unigolion y sîn roc Gymraeg. Yn yr wythnosau cyn y gwobrau, mae Ochr 1 yn cynhyrchu a rhyddhau fideos ar YouTube yn datgelu’r rhestrau byrion ac ar y noson ei hun, mae’r rhaglen yn cyfweld â’r enillwyr ac yn cofnodi’r noson fel bod modd ail-fyw’r cyffro i’r rhai oedd yno, neu alluogi’r rhai oedd methu bod yn rhan o’r noson. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Ochr 1 yn darlledu bandiau yn chwarae’n fyw o nosweithiau poblogaidd Maes B. Yn ogystal â hyn, mae llawer o fideos o’r setiau byw, sesiynau acwstig a chyfweliadau gyda’r bandiau ar gael ar sianel YouTube Ochr 1 fel bod modd ail-wylio eitemau’r rhaglen.

Esblygiad

Bu i cyfres Ochr 1 ddod i ben ac yn 2019 lansiwyd Lŵp fel platfform gerddoriaeth gyfoes Gymraeg S4C. Mae Lŵp yn cynnwys rhaglen ar y Sianel ond mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol fel Youtune, Facebook, TikTok a Twitter.[1]

Cyfeiriadau

  1. "S4C yn lawnsio Lŵp – mwy o gerddoriaeth ar y sianel". S4C. Awst 2019.

Dolenni allanol