Bleddyn ap Cynfyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
|-
|-
|width="40%" align="center"|'''[[Teyrnas Powys|Brenhinoedd Powys]]'''
|width="40%" align="center"|'''[[Teyrnas Powys|Brenhinoedd Powys]]'''
|width="30%" align="center"|'''Suivi par :'''<br>[[Maredudd ap Bleddyn]]<br>(fel Tywysog Powys)
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :'''<br>[[Maredudd ap Bleddyn]]<br>(fel Tywysog Powys)
|}
|}



Fersiwn yn ôl 20:54, 16 Chwefror 2007

Roedd Bleddyn ap Cynfyn (marw 1075) yn dywysog Gwynedd a Powys.

Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.

Fe geisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth. Fe'i lladdwyd yn 1075 gan Rhys ab Owain ag uchelwyr Ystrad Tywi, llofruddiaeth a barodd fraw trwy Gymru. Yn ôl Brut y Tywysogion yr oedd Bleddyn yn frenin daionus ac yn gyfrifol am ddiweddaru cyfraith Hywel Dda.


O'i flaen :
Gruffydd ap Llywelyn
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Trahaearn ap Caradog
Brenhinoedd Powys Olynydd :
Maredudd ap Bleddyn
(fel Tywysog Powys)