Tiwnis (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:استان تونس
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn newid: no:Tunis (guvernement)
Llinell 114: Llinell 114:
[[ms:Kawasan kegabenoran Tunis]]
[[ms:Kawasan kegabenoran Tunis]]
[[nl:Tunis (gouvernement)]]
[[nl:Tunis (gouvernement)]]
[[no:Tunis (provins)]]
[[no:Tunis (guvernement)]]
[[pl:Gubernatorstwo Tunis]]
[[pl:Gubernatorstwo Tunis]]
[[pt:Túnis (província)]]
[[pt:Túnis (província)]]

Fersiwn yn ôl 20:27, 4 Tachwedd 2011

Lleoliad talaith Tunis yn Tunisia

Mae talaith Tunis (Arabeg: ولاية تونس , Ffrangeg: Gouvernorat de Tunis), a greuwyd ar 21 Mehefin 1956, yn un o 24 talaith Tunisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Tunisia ac mae ganddi arwynebedd o 346 km² (sef 0.2% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o tua 989,000 (amcangyfrifiad 2006). Ei chanolfan weinyddol yw Tunis, prifddinas Tunisia.

Daearyddiaeth

Talaith Tunis yw rhanbarth economaidd pwysicaf y wlad. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir, o gwmpas Lac Tunis ar lan orllewinol Gwlff Tunis. Mae'r hinsawdd yn nodweddiadol o Fôr y Canoldir gyda tua 470 mm o law y flwyddyn a hafau poeth.

Yn weinyddol, ymrennir y dalaith yn 21 délégation (ardal), 8 municipalité ac 161 imada (ardal leol).

Délégation Poblogaeth yn 2004
(nifer)
Bab El Bhar 39 806
Bab Souika 33 284
Carthage 20 715
Cité El Khadhra 36 818
Djebel Djelloud 26 490
El Hrairia 96 245
El Kabaria 81 261
El Menzah 43 320
El Omrane 40 801
El Omrane Supérieur 62 138
El Ouardia 33 734
Ettahrir 21 956
Ezzouhour 40 434
La Goulette 28 407
La Marsa 77 890
La Médina 26 703
Le Bardo 70 244
Le Kram 58 152
Sidi El Béchir 29 911
Sidi Hassine 79 381
Séjoumi 36 171

Dinasoedd a threfi

Economi

Llun lloeren o dalaith Tunis

Lleolir maes awyr mwyaf y wlad (Maes awyr Tunis-Carthage) a phorthladd La Goulette, sy'n derbyn 98% o draffig forol y wlad, yn y dalaith. Diwydiant yw'r sector pwysicaf, er bod masnachu yn bwysig hefyd. Ceir pedwar Ardal Ddiwydiannol sy'n cynnwys 273 hectar :

Y prif ddiwydiannau yw brethyn a dillad, lledr a sgidiau a nwyddau electronig a thrydan.

Mae'r ystadegau economaidd fel a ganlyn :

  • Masnach a gwasanaethau : 49.4%
  • Diwydiannau, ynni, gwaith adeiladau cyhoeddus : 34.3%
  • Amaeth a pysgota : 16.3%
  • Diweithdra : 14.2%

Diwylliant

Tunis yw canolfan ddiwylliannol y wlad. Lleolir y rhan fwyaf o wasanaethau radio a theledu Tunisia yno.

Timau pêl-droed

Taleithiau Tiwnisia Baner Tiwnisia
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan