Bwdhaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MastiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: zu:UbuBudha
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: nso:Sebuda
Llinell 130: Llinell 130:
[[no:Buddhisme]]
[[no:Buddhisme]]
[[nov:Budisme]]
[[nov:Budisme]]
[[nso:Sebuda]]
[[oc:Bodisme]]
[[oc:Bodisme]]
[[or:ବୌଦ୍ଧ ଧର୍ମ]]
[[or:ବୌଦ୍ଧ ଧର୍ମ]]

Fersiwn yn ôl 07:34, 2 Tachwedd 2011

Siddhartha Gautama, Y Bwdha.

Crefydd ddi-dduw yw Bwdhaeth neu Bwdïaeth. Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.

Erbyn heddiw, rhennir Bwdhaeth yn dri phrif draddodiad: Theravāda, Mahāyāna, a Vajrayāna. Mae'n parhau i atynnu dilynwyr ledled y byd, ac yn ôl [1], mae oddeutu 350 miliwn o Fwdhyddion (fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon a geir mewn sawl wlad yn ansicr). Ef yw'r pumed grefydd yn y byd yn ôl niferoedd, ar ôl Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, a chrefydd traddodiadol Tsieineaidd. Mae'r urdd mynaich Sangha ymysg y sefydliadau hynaf ar y ddaear.

Athrawiaethau

Y Pedwar Gwiredd Doeth

Dysgodd y Bwdha fod yna ddioddef mewn bywyd, a achosir gan chwenychu, ac y gellir ei darfod trwy ddilyn y Llwybr Wythblyg Doeth (gw. isod):

  1. Dioddef: Dioddef yw genedigaeth, dioddef yw heneiddio, dioddef yw afiechyd, dioddef yw marwolaeth; dioddef yw uno â'r hyn sy'n annymunol; dioddef yw gwahanu o'r hyn sy'n ddymunol; dioddef yw peidio â chael yr hyn a ddymunir; yn gryno, dioddef yw'r pump cyfansawdd sy'n wrthrych ymafael.
  2. Tarddiad dioddef: Y chwenychu sy'n arwain at ailenedigaeth.
  3. Darfod dioddef: Darfod chwenychu.
  4. Y ffordd sy'n arwain at ddarfod dioddef: Y Llwybr Wythblyg Doeth;

Nirfana

Nirfana yw diffodd pob chwenychiad, rhithdyb, ac anwybodaeth.

Y Llwybr Wythblyg Doeth

  1. Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth
  2. Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb
  3. Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud
  4. Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed.
  5. Bywoliaeth Gyfiawn - Gwneud swydd nad yw'n diweddu eich hun neu eraill mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
  6. Ymdrech Cyfiawn - Gwneud ymdrech i wella
  7. Gwybodus Rwydd Cyfiawn - Y gallu meddyliol i weld pethau fel y maent, gydag ymwybod clir.
  8. Myfyrio Cyfiawn

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol