Darius I, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: ku:Daryûs I |
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: yo:Darius I of Persia |
||
Llinell 73: | Llinell 73: | ||
[[vi:Darius I của Ba Tư]] |
[[vi:Darius I của Ba Tư]] |
||
[[yi:דריווש דער ערשטער]] |
[[yi:דריווש דער ערשטער]] |
||
[[yo:Darius I of Persia]] |
|||
[[zh:大流士一世]] |
[[zh:大流士一世]] |
Fersiwn yn ôl 19:17, 1 Tachwedd 2011
Pedwerydd brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius I, Perseg: داریوش , Hen Roeg: Δαρεῖος, Dareios (c. 549 CC - 486 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y brenin a arweiniodd ymgyrch gyntaf y Persiaid yn erbyn y Groegiaid.
Roedd Darius, oedd yn fab i Hystaspes, yn wreiddiol yn swyddog ym myddin Cambyses II, a bu'n ymgyrchu gydag ef yn yr Aifft. Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain.
Daeth Darius yn arweinydd byddin Cambyses, a llwyddodd i orchfygu Smerdis a'i ladd, a chymeryd yr orsedd. Adeiladodd brifddinas newydd Persepolis. Bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod ei deyrnasiad; gwrthryfelodd Babilon fwy nag unwaith. Ymestynnodd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach; arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn Afon Indus a meddiannodd Thrace yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn Groeg pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym Mrwydr Marathon yn 490 CC.. Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes I.
Rhagflaenydd : Smerdis |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Darius I |
Olynydd : Xerxes I |