Gweriniaeth Pobl Wcráin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Adda'r Yw y dudalen Gweriniaeth Pobl yr Wcráin i Gweriniaeth Pobl Wcráin: Yr Wcráin → Wcráin
Dim crynodeb golygu
Llinell 67: Llinell 67:


Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.<ref name=HDU>Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, ''Historical Dictionary of Ukraine'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 696–97.</ref>
Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.<ref name=HDU>Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, ''Historical Dictionary of Ukraine'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 696–97.</ref>

==Gweler hefyd==
* [[Gweriniaeth Pobl Belarws]]


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 16:39, 1 Ebrill 2022

Gweriniaeth Pobl Wcráin
Українська Народня Республіка
Ukrajinśka Narodnia Respublika
Ymreolaeth hunanddatganedig o fewn Gweriniaeth Rwsia (1917–1918)
Gwladwriaeth a gydnabuwyd gan rai (1918–1921)

 

1917–1921
Ebrill–Rhagfyr 1918: Y Wladwriaeth Wcreinaidd

 

 

Baner Arfbais
Anthem
Ще не вмерла України  (Wcreineg)
Shche ne vmerla Ukrainy  (trawslythreniad)
"ni fu dreng ar ogoniant Wcráin"
Delwedd:Anthem-of-Ukraine Chorus Veryovka.ogg
Location of Gweriniaeth Pobl Wcráin
Prifddinas Kiev
Ieithoedd Wcreineg (swyddogol)
Rwseg
Ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Pwyleg, Almaeneg, Belarwseg, Rwmaneg, Bwlgareg, Groeg, Urum ac eraill.
Crefydd
Llywodraeth Llywodraeth dros dro
Arlywydd
 -  1917–1918 Mykhailo Hrushevskyi
 -  1918–1925 Y Gyfarwyddiaeth
Arlywydd alltud
 -  1926–1954 Andriy Livytskyi
 -  1954–1965 Stepan Vytvytskyi
 -  1965–1989 Mykola Livytskyi
 -  1989–1992 Mykola Plaviuk
Deddfwrfa Y Rada Canolog (i Ebrill 1918)
Y Gyngres Lafur
Cyfnod hanesyddol Y Rhyfel Byd Cyntaf
 -  Sefydlwyd y weriniaeth 20 (7) Tachwedd 1917
 -  Annibyniaeth 22 (9) Ionawr 1918
 -  Y Wladwriaeth Wcreinaidd 29 Ebrill 1918
 -  Y Gyfarwyddiaeth 14 Rhagfyr 1918
 -  Heddwch Riga 18 Mawrth 1921
Arwynebedd
 -  1897 477,021 km² (184,179 sq mi)
Poblogaeth
 -  1897 amcan. 23,430,407 
     Dwysedd 49.1 /km²  (127.2 /sq mi)
Arian cyfred Karbovanets
Hryvnia
Heddiw'n rhan o

Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop o 1917 i 1921 oedd Gweriniaeth Pobl Wcráin (Wcreineg: Украінська Народня Республіка, УНР; Ukrajinśka Narodna Respublika, UNR). Sefydlwyd yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 a chwymp Ymerodraeth Rwsia. Roedd ei ffiniau yn cyfateb yn fras i diriogaeth bresennol Wcráin, y Crimea a gorllewin Kuban yn Rwsia, a rhannau o dde Belarws, dwyrain Gwlad Pwyl, Slofacia, Moldofa, a Rwmania.

Ar 7 Tachwedd [20 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1917, cyhoeddwyd y Trydydd Gorchymyn Hollgyffredinol gan Rada Canolog Wcráin, yn sefydlu'r UNR yn nwyrain Wcráin, mewn ffederasiwn â Gweriniaeth Rwsia. Wedi i'r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia yn Chwyldro Hydref 1917, goresgynnwyd Wcráin gan luoedd Rwsia a datganwyd annibyniaeth yr UNR gan y Rada ar 9 Ionawr [22 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1918.[1]

Yn Chwefror 1918, arwyddwyd Cytundeb Brest-Litovsk gan yr UNR a fe'i cydnabuwyd yn wladwriaeth annibynnol gan y Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyrrwyd y Bolsieficiaid ymaith gan luoedd yr Almaen ac Awstria-Hwngari, ond nid oedd yr Wcreiniaid yn cyflawni'r danfoniadau bwyd a gytunwyd dan delerau Brest-Litovsk. Yn sgil coup d'état Pavlo Skoropadsky yn Ebrill 1918, datganwyd y Wladwriaeth Wcreinaidd i olynu'r UNR.[1]

Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 696–97.