Albert Westhead Pryce-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Bywyd cynnar== |
==Bywyd cynnar== |
||
Roedd Pryce-Jones yn fab i Syr [[Pryce Pryce-Jones]], perchennog busnes gwerthu drwy'r post y ''Royal Welsh Warehouse'' ac [[Aelod Seneddol]] [[Bwrdeistref Trefaldwyn (etholaeth seneddol)|Bwrdeistref Trefaldwyn]]. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn [[criced|gricedwr]] a phêl-droediwr o fri.<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1= Davies |first1=Gareth M. |last2=Garland |first2=Ian |page=171 |publisher=Bridge Books |ISBN=1 872424 11 2 |date=1991}}</ref> Ym 1889 aeth i astudio yng [[Coleg Clare, Caergrawnt|Ngholeg Clare, Caergrawnt]] lle cynrychiolodd [[Prifysgol Caergrawnt]] mewn [[pêl-droed]] a [[tenis]] yn ogystal |
Roedd Pryce-Jones yn fab i Syr [[Pryce Pryce-Jones]], perchennog busnes gwerthu drwy'r post y ''Royal Welsh Warehouse'' ac [[Aelod Seneddol]] [[Bwrdeistref Trefaldwyn (etholaeth seneddol)|Bwrdeistref Trefaldwyn]]. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn [[criced|gricedwr]] a phêl-droediwr o fri.<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1= Davies |first1=Gareth M. |last2=Garland |first2=Ian |page=171 |publisher=Bridge Books |ISBN=1 872424 11 2 |date=1991}}</ref> Ym 1889 aeth i astudio yng [[Coleg Clare, Caergrawnt|Ngholeg Clare, Caergrawnt]] lle cynrychiolodd [[Prifysgol Caergrawnt]] mewn [[pêl-droed]] a [[tenis]] yn ogystal â bod yn gapten ar dîm [[criced]] y Coleg.<ref name="whoswho" /> |
||
==Gyrfa bêl-droed== |
==Gyrfa bêl-droed== |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
{{DEFAULTSORT:Pryce-Jones, Albert Westhead}} |
{{DEFAULTSORT:Pryce-Jones, Albert Westhead}} |
||
[[Categori: |
[[Categori:Chwaraewyr C.P.D. Y Drenewydd]] |
||
[[Categori:Genedigaethau 1870]] |
[[Categori:Genedigaethau 1870]] |
||
[[Categori:Pêl-droedwyr Cymreig]] |
[[Categori:Pêl-droedwyr Cymreig]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1946]] |
|||
[[Categori:Pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru]] |
[[Categori:Pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru]] |
||
[[Categori:Chwaraewyr C.P.D. Y Drenewydd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 21:23, 28 Mawrth 2022
Albert Westhead Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1870 Cymru, y Drenewydd |
Bu farw | 17 Awst 1946 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed, diwydiannwr, milwr |
Tad | Pryce Pryce-Jones |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Y Drenewydd |
Cyn ŵr busnes a phêl-droediwr Cymreig oedd Albert Westhead Pryce-Jones OBE (26 Mai 1870 – 17 Awst 1946). Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Drenewydd yn ogystal ag ennill 1 cap dros Gymru ym 1895.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]
Roedd Pryce-Jones yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones, perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn gricedwr a phêl-droediwr o fri.[1] Ym 1889 aeth i astudio yng Ngholeg Clare, Caergrawnt lle cynrychiolodd Prifysgol Caergrawnt mewn pêl-droed a tenis yn ogystal â bod yn gapten ar dîm criced y Coleg.[1]
Gyrfa bêl-droed[golygu | golygu cod]
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, William Ernest Pryce-Jones yn nhîm Y Drenewydd ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd Wrecsam yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1894-95[2] ac yn yr un tymor casglodd ei unig gap rhyngwladol wrth chwarae dros Gymru mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr yn y Queen's Club, Llundain.[3]
Bywyd busnes[golygu | golygu cod]
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd â busnes ei dad yn Y Drenewydd. Roedd Pryce-Jones hefyd yn aeod o'r Fyddin Diriogaethol fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[4]. Ym 1911 symudodd i Calgary yng Nghanada ym 1911 er mwyn sefydlu cangen o'r RWW yn y ddinas a cheisio disodli'r Hudson Bay Company fel prif fusnes masnachol yr ardal.[4][5]
Aeth y busnes yng Nghanada i'r wal pan adawodd Pryce-Jones er mwyn dychwelyd i Brydain Fawr er mwyn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[5]
Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cododd Pryce-Jones fataliwn lleol yn Calgary er mwyn hwylio i ymladd dros yr Ymerodraeth. Gadawodd yr 113th Lethbridge (Calgary) Highlanders am Loegr ym mis Medi 1916 ond oherwydd colledion enbyd yn ystod y brwydro yn Ffrainc cafodd y bataliwn ei rannu rhwng sawl bataliwn Canadaidd arall.[4][6]
Bu farw ei fab, Reginald 'Rex' Pryce-Jones, yn ystod Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd 1916.[7]
Ymddeoliad[golygu | golygu cod]
Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Pryce-Jones yn byw yn Llundain cyn symud i fyw i'r Ariannin ym 1938, lle bu farw ym 1946.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Ei frodyr:
- Edward Pryce-Jones AS
- Y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones, CB; CVO; DSO, MC; MVO
- William Ernest Pryce-Jones
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 171. ISBN 1 872424 11 2.
- ↑ "Welsh Cup Final 1894-95". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "England 1-1 Wales". eu-football.info.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Jackson, Jasmin (2006). On the Way!. Trafford Publishing. t. 51. ISBN 1412031397.
- ↑ 5.0 5.1 "Canadian Museum of History". Canadian Museum of History.
- ↑ "Colonels of the Canadian Expeditionary Force: The Welshman". Patriots, Crooks and Safety Firsters.
- ↑ "Rex Pryce-Jones". Canadian Virtual War Memorial. Veterans Affairs Canada.