Argae Aswan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ms:Empangan Aswan
Llinell 53: Llinell 53:
[[mn:Асуаны далан]]
[[mn:Асуаны далан]]
[[mr:आस्वान धरण]]
[[mr:आस्वान धरण]]
[[ms:Empangan Aswan]]
[[nl:Aswandam]]
[[nl:Aswandam]]
[[nn:Aswandammen]]
[[nn:Aswandammen]]

Fersiwn yn ôl 11:51, 29 Hydref 2011

Argae Uchel Aswan

Rhoddir yn enw Argae Aswan i ddau argae ar draws Afon Nîl gerllaw dinas Aswan yn yr Aifft. Yr argae hynaf yma yw Argae Isel Aswan; yr un diweddaraf ac enwocaf yw Argae Uchel Aswan (Arabeg: السد العالي).

Adeiladwyd y ddau argae i osgoi llifogydd ar yr afon, i gynhyrchu trydan ac i gael dŵr ar gyfer amaethyddiaeth. Adeiladwyd yr argae cyntaf rhwng 1899 a 1902, pan oedd yr Aifft yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd yn 1,900 metr o hyd a 54 m o uchder, ond profiodd hyn yn annigonol ac ychwanegwyd at ei uchder rhwng 1907 a 1912 ac wedyn rhwng 1929 a 1933.

Dechreuwyd cynllunio Argae Uchel Aswan yn 1952. Tua'r un adeg daeth Nasser i rym. Roedd yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig wedi addo $270 miliwn o gymorth at y costau, ond ataliwyd hyn yn 1956 oherwydd eu gwrthwynebiad i wleidyddiaeth Nasser. Yn 1958 cytunodd yr Undeb Sofietaidd i dalu am y cynllun yn eu lle. Dechreuwyd adeiladu'r argae yn 1960, a chafodd ei orffen ar 21 Gorffennaf, 1970. Dechreuodd Llyn Nasser ffurfio tu ôl i'r argae yn 1964, tra bod yr argae'n dal i gael ei godi. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Teml Abu Simbel yw'r enwocaf o'r rhain.

Mae'r argae yn 3,830 m o hyd a 111 m o uchder; ac yn cynnwys 43 miliwn m³ o ddeunydd. Gall hyd at 11,000 m³ o ddŵr yr eiliad lifo trosto. Mae Llyn Nasser yn 550 km o hyd a 35 km o led yn y man lletaf, gydag arwynebedd o 5,250 km².