Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 58: Llinell 58:


:Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly '''''Château''''' sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)
:Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly '''''Château''''' sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)

== Alwyn ar Radio Cymru ==

Newydd glywed [https://www.bbc.co.uk/sounds/play/live:bbc_radio_cymru cyfweliad gwych iawn ar raglen Aled Llanbedrog gydag Alwyn ap Huw yn cael ei holi] am ei waith ar Wicidestun. Ardderchog iawn! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 10:58, 26 Ionawr 2022 (UTC)

Fersiwn yn ôl 10:58, 26 Ionawr 2022

Croeso i'r Caffi
Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi
Coffi




Cwlwm Celtaidd 2022

Bydd Wikimedia UK a Wikimedia Deutschland yn trefnu Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd eleni. I gynorthwyo gyda'r cynllunio, hoffem dderbyn eich adborth ar sut fath o weithdai fyddai'n ddefnyddiol i chi a'r gymuned cywici. Dyma arolwg byr, fydd ar ar agor tan 17 Ionawr. Diolch! Richard Nevell (sgwrs) 09:16, 14 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Bendigedig Richard! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:27, 14 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

...

Diweddaru lluniau

Un peth dwi'n sylw o bryd i bryd yw'r lluniau a ddefnyddir ar dudalenau. Yn amlwg mae trwydded yn cyfyngu ar be sydd ar gael - e.e. defnyddio llun sydd eisoes ar Wikimedia neu Wikipedia English, neu Geograph.

Oes modd yma ac acw awgrymu tudalenau sydd angen llun 'gwell'?

Felly gall rhywun sydd awydd mynd am dro gynnwys cymryd llun gwell i dudalen fel rhan ohoni.


Hwyl, Huw

Yn sicr. Pob blwyddyn bydd Wici rhyngwladol yn creu cystadlaethau byd eang i geisio cael lluniau amgenach a gwell. Yn ystod y cyfnod clo mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu cystadlaethau i greu lluniau lleol amgen yng Nghymru. Un o'r pethau rwy'n gweld ei angen yng Nghymru yw lluniau o gerrig beddau enwogion. Mae'r ffaith bod llun ar gael ddim yn rhwystr i'w cyfnewid am un gwell, ac os wyt yn gweld llun gwael, does dim oll yn bod a gwneud cais am lun gwell, yma neu ar y cyfryngau cymdeithasol ehangach. AlwynapHuw (sgwrs) 06:13, 25 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]
Diolch am ymateb.
Dylwn i fod yn fwy eglur yn fy neges gwreiddiol: oes posib creu restr o luniau a all cael eu diweddaru? Gan gychwyn gyda beddfeini, pa rai sydd eu hangen fel blaenoriaeth?
Hwyl,
Huw Huw Waters (sgwrs) 16:52, 25 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Castell / Château

Heddiw crëwyd dwy erthygl newydd gan JeanGree, sef Castell Chaban a Castell Fenelon. Mae angen ychydig o waith arnyn nhw, ac roeddwn yn paratoi i wneud hynny. Ond mae yna broblem. Yn fy marn i, dylai fod gan yr erthyglau hyn y teitlau "Château de Chaban" a "Château de Fénelon". Mae gan y gair Ffrangeg château ystyr ehangach na'r "castell": mae'n cynnwys adeiladau y byddem ni'n eu galw'n balasau, plastai neu winllannoedd hyd yn oed. Mae gennym ni nifer o erthyglau sydd ag enwau o'r math hwn eisoes, e.g. Château de Castelnaud. Ond mae gennym ni bethau fel Castell Chinon hefyd. Rwy'n awgrymu defnyddio'r fformat " "Château de X" amdanyn nhw i gyd. (Y dewis arall fyddai defnyddio "Castell X" bob tro.) A oes gwrthwynebiadau? --Craigysgafn (sgwrs) 21:14, 25 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly Château sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. AlwynapHuw (sgwrs) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Alwyn ar Radio Cymru

Newydd glywed cyfweliad gwych iawn ar raglen Aled Llanbedrog gydag Alwyn ap Huw yn cael ei holi am ei waith ar Wicidestun. Ardderchog iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 26 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]