Bywyd a Gwaith Henry Richard AS (llyfr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Teitl italig}} {{Pethau|image=Henry Richard AS.jpg}} Mae '''''Bywyd a Gwaith Henry Richard AS''''', gan Eleazar Roberts<ref>{{Cite web|title=ROBERTS, ELEAZER (1825 - 1912), cerddor {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-ELE-1825|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2022-01-22}}</ref> yn gofiant a gyhoeddwyd gan wasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1902. ==Cefndir== Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Henry...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 03:08, 22 Ionawr 2022

Bywyd a Gwaith Henry Richard AS
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Mae Bywyd a Gwaith Henry Richard AS, gan Eleazar Roberts[1] yn gofiant a gyhoeddwyd gan wasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1902.

Cefndir

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Henry Richard[2] (3 Ebrill 181220 Awst 1888). Roedd Richard yn Weinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Bwrdeistref Merthyr Tudful.[3] Ym 1848 etholwyd Richard yn ysgrifennydd Y Gymdeithas Heddwch[4], gan aros yn y swydd hyd 1885

Gorchwyl a droes allan wedi hynny yn brif waith ei fywyd, gwaith a'i dygodd i gysylltiad â rhai o brif enwogion y Deyrnas (Unedig) a Chyfandir Ewrob ac America, ac a wnaeth ei enw yn adnabyddus ym mhob man fel prif "Apostol Heddwch".—Bywyd a Gwaith Henry Richard, Pennod IV tud 29[5]

Bu Richard hefyd yn olygydd cylchgrawn y Gymdeithas Heddwch The Herald of Peace am bron i 40 mlynedd.[6]

Cynnwys

Ar ôl dyfyniad o Heddwch, awdl goffa i'r gwrthrych gan Gwilym Hiraethog a rhagymadrodd gan awdur y gyfrol daw 21 o benodau bywgraffiadol. Mae'r ddwy bennod gyntaf yn adrodd hanes ieuenctid ac addysg Richard ac yn cynnwys bywgraffiad byr o'i dad, Y Parch Ebenezer Richard, un o hoelion wyth Methodistiaeth gynnar Cymru. Mae'n rhoi hanes ei swydd gyntaf yn gwerthu brethyn mewn siop yng Nghaerfyrddin cyn penderfynu troi ei olygon at y weinidogaeth. Gan nad oedd Richard am fod yn weinidog di addysg a gan nad oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd athrofa i hyfforddi gweinidogion ar y pryd mae'n mynd i Lundain i hyfforddi yn athrofa'r Annibynwyr yn Highbury.

Mae'r drydedd bennod yn sôn am Richard yn cael ei ordeinio yn weinidog ar Gapel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain a'i waith fel gweinidog ifanc. Mae'r bennod hefyd yn rhoi adroddiad am ei ymateb i ddirprwywyr Brad y llyfrau gleision a'i amddiffyniad gwresog o Gymru, ei phobl ei moesau a'i chrefydd anghydffurfiol.

Mae gweddill y llyfr yn rhoi disgrifiadau manwl am waith diflino Richard fel ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch, golygydd yr Herald of Peace ac aelod seneddol yn ymgyrch dros heddwch. Mae'n trefnu cynadleddau heddwch trwy Ewrop, mae'n mynd ar deithiau areithio trwy'r cyfandir i ledaenu neges heddwch. Mae'n cwrdd â gwladweinwyr a phobl o ddylanwad o dros y byd i gyd i egluro ei syniadaeth am ddefnyddio cyflafareddiad (cyd-drafod rhwng gwledydd) er mwyn osgoi rhyfel, o gael cyfraith ryngwladol i ddyfarnu ar anghydfod rhwng gwledydd a llys rhyngwladol i ddyfarnu ar anghydfod lle nad yw trafod yn llwyddo. Mae o'n dadlau yn huawdl yn erbyn cefnogwyr rhyfel gan gynnwys rhai o arweinwyr maes y gad fel Dug Wellington a Napoléon Bonaparte.

Mae'r llyfr hefyd yn rhoi hanes ymgyrchu Richard ar bynciau oedd yn agos i'w ganol tu allan i faes heddwch a rhyfel.

  • Roedd yn gefnogwr brwd i ymgais Osborne Morgan i ganiatáu i weinidogion anghydffurfiol cynnal angladdau ym mynwentydd eglwysi'r plwyf lle nad oedd mynwent capel ar gael,[7] bu hefyd yn ymgyrchu am sefydlu byrddau claddu i greu a rhedeg mynwentydd anenwadol. Roedd yn gefnogol i ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd ac o gael hawliau crefyddol cyfartal i bob enwad.
  • Y maes addysg roedd yn groch yn erbyn bwriad y llywodraeth i roi addysg orfodol i blant yn gyfrifoldeb i Eglwys Loegr a bu'n ymgyrchwr brwd dros sefydlu "Ysgolion Brutanaidd" anenwadol. Bu ar bwyllgor brenhinol i drefnu gwella'r ddarpariaeth addysg ganolradd ac uwchradd yng Nghymru, gan gefnogi ymgais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion. Roedd yn gefnogol i'r ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru a'i thri choleg cyntaf yn Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd.
  • Roedd yn wrthwynebydd cryf i ddefnydd yr Ysgriw, y drefn a ddefnyddiwyd gan landlordiaid Torïaidd i gosbi eu tenantiaid trwy eu troi nhw allan o'i ffermydd, tai neu waith pe na baent yn cefnogi'r Ceidwadwyr mewn etholiadau.[8] Roedd yn gefnogol i'r ymgyrch o blaid y tugel [9](y bleidlais gudd)

Pennodau

  • Awdl Coffa
  • At Y Darllennydd
  • Pennod I
    • Rhagarweiniad—Rhieni Mr Richard—Ei Febyd—Dylanwad crefydd Cymru arno—Yr addysg a gafodd gartref, ac yn ysgol John Evans, Aberystwyth.
  • Pennod II
    • Mr. Richard yn gadael cartref—Yn myned at frethynnwr i Gaerfyrddin—Yn meddwl am bregethu—Yn myned i'r Athrofa yn Highbury—Ei fywyd yno am bedair blynedd.
  • Pennod III
    • Mr. Richard yn weinidog capel Marlborough—Ei lafur gweinidogaethol—Ei gariad at Gymru—Ei ddarlith yn ei hamddiffyn yn erbyn cam—gyhuddiadau y dirprwywyr ar Addysg.
  • Pennod IV
    • Mr. Richard yn cael ei benodi i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei lafur dros y Gymdeithas—Cynhadleddau Brussels, Paris, Frankfort, a Llundain—Yn rhoi i fyny ei Swydd Weinidogaethol—Arglwydd Palmerston a'r Gymdeithas Heddwch—Cynhadleddau Manchester ac Edinburgh.
  • Pennod V
    • Rhyfel y Crimea-Cynhadledd Paris—Yr adran ar gyflafareddiad yn y Gytundeb—Rhyfel â China—Y Morning Star—Gweithydd Amddiffynnol—Yr Arddanghosfa—Yr ymdrech o blaid heddwch cyffredinol—Rhyfel Cartrefol yr America—Achos y Trent—Yn ysgrifennu * Bywgraffiad Joseph Sturge a Mr. Cobden.
  • Pennod VI
    • Mr. Richard yn ceisio deffro Etholwyr Cymru,—Llythyrau a Thraethodau ar Gymru—Ei etholiad yn Aelod Seneddol—Ei Briodas.

|

  • Pennod VII
    • Yn dod yn Aelod Seneddol—Ysgriw y tir-feddianwyr –Ei araeth gyntaf yn y Senedd a'i heffeithiau—y gronfa i gynhorthwyo y tenantiaid—Ei areithiau ar y pwnc o Addysg yn y Senedd.
  • Pennod VIII
    • Y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia—Areithiau ac Ysgrifeniadau Mr. Richard arno—Rwsia yn cymeryd mantais ar yr amgylchiadau.
  • Pennod IX
    • Y ddadl Seneddol ar Ddatgysylltiad, ac ar Addysg—Y Tugel—Achos yr Alabama—Araeth Mr. Richard yn erbyn cynhygiad Mr. Cardwell ar luestai milwrol—Y cyffro a ddilynodd—Ei daith yn yr Iwerddon, a'i araeth ym Merthyr Tydfil.
  • Pennod X
    • Cyflafareddiad—Araeth Mr. Richard yn y Senedd arno—Ei Deithiau ar y Cyfandir yn yr achos.
  • Pennod XI
    • Taith Mr. Richard ar y Cyfandir yn achos Heddwch—Ei dderbyniad croesawgar yn Paris–Ei araeth ef, ac araeth M. Frederic Passy yno.
  • Pennod XII
    • Datgorfforiad y Senedd—Mr. Richard yn cael ei ethol drachefn dros Ferthyr—Y Senedd-dymor Eglwysig—Cyfarfod llongyfarchiadol i Mr. Richard–Ei daith eto i'r Cyfandir—Ei lafur amrywiol a'i areithiau—Ei ymweliad a'r Hague—Ei areithiau yn y Senedd–Yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol—Ei areithiau.
  • Pennod XIII
    • Yr Achos Dwyreiniol eto—Erchyllderau Bulgaria,—Y Gynhadledd Fawr yn St. James's Hall ar yr achos—Dirprwyaeth at Arglwydd Derby—Areithiau ar Heddwch gan Mr. Richard—Rhyfel Rwsia a Thwrci—Cytundeb Berlin, a barn Mr. Richard arno—Ei ymdrech i ddwyn Cyflafareddiad iddo—cynhadledd Heddwch yn Paris—Rhyfel y Zuluiaid.

|

  • Pennod XIV
    • Mr. Gladstone yn Brif Weinidog—Etholiad Mr. Richard—Ei Areithiau, a'i amddiffyniad i'r Cymry—Y Mesur Claddu—Ei Areithiau yn y Senedd—Ei ymgais gael lleihad yn ein Darpariadau Milwrol—Helynt y Transvaal.— Barn Mr. Richard arno—Anerchiad iddo yn Leicester a Merthyr.
  • Pennod XV
    • Mr. Richard yn Aelod o'r Departmental Committee ar Addysg yng Nghymru—Erthygl Esgob Llandaff ac atebiad Mr. Richard—Ei Araeth yn y Senedd ar Achos Borneo.
  • Pennod XVI
    • Yr helynt yn yr Aifft—Areithiau Mr. Richard yn y Senedd ar y cwestiwn—Ymddistwyddiad Mr. Bright—Ei araeth yn erbyn blwydd-dal Arglwydd Wolseley a'r Llyngesydd Seymour—Y rhyfel yn y Soudan—Araeth Mr. Richard arno—Yr ymgais i Waredu Gordon.
  • Pennod XVII
    • Colegau Gogledd a Deheudir Cymru—Ei Lafur Seneddol—Arwyddion Henaint—Ei Daith ar y Cyfandir—Ei Ysgrifau i'r Newyddiaduron, a'i Lafur yn y Senedd—Ei Ymddiswyddiad fel Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei Anrhegu â 4,000g—Rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd—Datgorfforiad y Senedd—Etholiad Mr. Richard am y Bedwaredd Waith.
  • Pennod XVIII
    • Mr. Richard yn cael ei bennodi yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol ar Addysg—Ei lafur mawr arno, er ei afiechyd —Ei erthygl nodweddiadol ar Gymru yn y Daily News.
  • Pennod XIX
    • Iechyd Mr. Richard yn datfeilio—Ei gariad at Gymru—Yn myned i Dreborth—Ei fwynhad yno—Ei farwolaeth sydyn—Ei gladdedigaeth yn Llundain—Anerchiad Dr. Dale—Teyrnged Mr. Gladstone i'w gymeriad—Sylwadau y Wasg ar ei fywyd a'i waith.
  • Pennod XX
    • Adolygiad ar brif waith bywyd Mr. Richard—Ei safle ar y pwnc o Heddwch—Sylwedd ei brif ysgrifeniadau arno.
  • Pennod XXI
    • Y dadleuon yn erbyn Cyflafareddiad—Yn beth mewn gweithrediad eisoes—Dros ddau cant o engreifftiau rhwng 1815 a 1901—Llwyddiant llafur Mr. Richard.
  • Atodiad
    • Yn cynnwys rhai o syniadau neilltuol Mr. Richard ar y cwestiwn o Ryfel a Heddwch.

Cyfeiriadau

  1. "ROBERTS, ELEAZER (1825 - 1912), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-22.
  2. "RICHARD, HENRY (1812 - 1888), gwleidyddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-22.
  3. Williams, William Retlaw (1895). The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895,. Cornell University Library. Brecknock : Priv. Print. for the author by E. Davis and Bell.
  4. "Cronicl y cymdeithasau crefyddol | Cyf. VI rhif. 63 - Gorphenaf 1848 | 1848 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-01-22.
  5. "Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod IV - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2022-01-22.
  6. "Richard, Henry", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 23, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Richard,_Henry, adalwyd 2022-01-22
  7. Burial Laws Amendment Act 1880 adalwyd 25 Awst 2020
  8. Y Tyst Cymreig, 21 Mai 1869 YR YSGRIW YN NGHYMRU
  9. Gwleidyddiaeth, Yr arweinydd, Cyf. I Rhif. 4 Tachwedd 1869 tud 93