Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edward Jones (meddyg Dolgellau)"

Jump to navigation Jump to search
B
No edit summary
 
== Gwasanaeth cyhoeddus ==
[[Delwedd:Caerffynnon, meddygfa a chartref Dr Edward Jones 1834-1900.jpg|chwith|bawd|Caerffynnon, meddygfa a chartref Dr Jones]]
Ers yn ifanc, cyn iddo fynd i'r Brifysgol yng Nglasgow roedd Jones yn [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydwr]] brwd.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4487924|title=Dr Edward Jones - Y Genedl Gymreig|date=1889-04-03|accessdate=2020-10-15|publisher=Thomas Jones}}</ref> Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Ryddfrydol Meirion gan wasanaethu, bron yn ddi-dor o'i sefydlu hyd ei farw ef fel ei lywydd. Bu'n weithgar wrth sicrhau cipio [[Meirionnydd (etholaeth seneddol)|Meirion]] o ddwylo'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadwyr]] gan [[David Williams (Meirionnydd)|David Williams]], [[Castell Deudraeth]] ym 1868 <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3144753|title=DOLGELLAU - Y Dydd|date=1868-11-13|accessdate=2020-10-15|publisher=William Hughes}}</ref> a'i chadw yn sedd Ryddfrydol wedi hynny. Roedd yn gweithredu fel cyfieithydd dros yr ASau di Gymraeg [[Samuel Holland]] a [[Henry Robertson]] ac yn aml yn cael mwy o hwyl wrth draddodi cyfieithiadau o'u areithiau nag oeddynt hwy yn cael yn eu traddodi yn y gwreiddiol. Bu bygwth rhwyg yn yr achos Rhyddfrydol yn y sir ym 1885 pan benderfynodd rhai aelodau i godi [[Morgan Lloyd]], Cymro Cymraeg o gefndir gwerinol, i herio'r diwydiannwr cefnog di-gymraeg o Sgotyn Henry Robertson. Roedd Edward Jones yn gyfrwng pwysig wrth geisio gwella'r rhwyg. Gwasanaethodd fel un o Gynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor Gweithredol y Ffederasiwn Rhyddfrydol Prydeinig. Pan fu farw [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]] a phan roddodd [[Owen Morgan Edwards|Syr O. M. Edwards]] <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3119781|title=OLYNYDD MR O M EDWARDS - Tarian Y Gweithiwr|date=1900-01-25|accessdate=2020-10-15|publisher=Mills, Lynch, & Davies}}</ref> hysbysugwybod nad oedd am ail sefyll ar gyfer [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]] bu bwysau lawer ar Jones i sefyll yn eu lle ond fe wrthododd y cynigion.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4446302|title=MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y Dr EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Genedl Gymreig|date=1900-02-13|accessdate=2020-10-15|publisher=Thomas Jones}}</ref>
 
Fe'i hetholwyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd,<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3453877|title=DR EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Cymro|date=1900-02-08|accessdate=2020-10-15|publisher=Isaac Foulkes}}</ref> a hyd at ei farwolaeth gwasanaethodd fel cadeirydd Cydbwyllgor yr Heddlu.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3166024|title=PWYLLGOR HEDDLU MEIRION - Y Dydd|date=1900-01-12|accessdate=2020-10-15|publisher=William Hughes}}</ref> Roedd yn aelod o'r Cydbwyllgor Addysg, a luniodd y cynllun addysg ganolraddol ar gyfer y sir ar ôl pasio Deddf Addysg Cymru, 1889. O'r cyntaf roedd wedi bod yn gadeirydd Corff Llywodraethwyr Sir Feirionnydd, ac wedi gweithio'n ddiflino dros achos addysg uwchradd yn y sir. Roedd wedi bod yn un o'r prif symudwyr wrth sefydlu [[Ysgol Dr. Williams|Ysgol Dr Williams]] i ferched yn Nolgellau, ac o'r cychwyn roedd wedi cymryd y brif gyfran yn ei rheolaeth. Bu hefyd yn flaenllaw wrth sicrhau adeiladau Ysgol Sirol y bechgyn Dolgellau i gymryd lle'r hen Ysgol Ramadeg bychan ac adfail.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3604590|title=DEATH OF MR EDWARD JONES DOLGELLEY - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent|date=1900-02-09|accessdate=2020-10-15|publisher=James Rees}}</ref> Mae rhan o'r campws bu'n rhan o'i sefydlu yn dal i gael ei ddefnyddio gan adran uwchradd [[Ysgol Bro Idris]].
 
{{center|'''Bedd Dr Jones ym mynwent gyhoeddus Dolgellau:'''}}
<gallery mode="packed" heights="200px">
Bedd Dr Edward Jones, Dolgellau 01.jpg
Bedd Dr Edward Jones, Dolgellau 02.jpg

Llywio