Bulkeley (teulu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion gyda llaw (drwy AWB) using AWB
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 11: Llinell 11:
==Rhai aelodau nodedig==
==Rhai aelodau nodedig==
*[[Arthur Bulkeley]] (m. 1552), [[Esgob Bangor]]
*[[Arthur Bulkeley]] (m. 1552), [[Esgob Bangor]]
*[[Richard Bulkeley (bu farw 1573)|Richard Bulkeley]] (1524 - 1573), Aelod Seneddol Sir Fôn
*[[Richard Bulkeley (bu farw 1573)|Richard Bulkeley]] (1524–1573), Aelod Seneddol dros Sir Fôn
*[[Richard Bulkeley]] (1533 – 1621), Aelod Seneddol dros Ynys Môn
*[[Richard Bulkeley]] (1533–1621), Aelod Seneddol dros Sir Fôn
*[[Richard Bulkeley (bu farw 1573)|Syr Richard Bulkeley]] (1558-1572), Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571
*[[Richard Bulkeley (bu farw 1573)|Syr Richard Bulkeley]] (1558–1572), Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571
*[[Lancelot Bulkeley]] (1568?-1650) - Archesgob [[Dulyn]] rhwng 1619 a 1650; mab [[Richard Bulkeley (bu farw 1573)]] a hanner brawd [[Richard Bulkeley (bu farw 1621)]].
*[[Lancelot Bulkeley]] (1568?–1650), Archesgob [[Dulyn]] rhwng 1619 a 1650; mab [[Richard Bulkeley (bu farw 1573)]] a hanner brawd [[Richard Bulkeley (bu farw 1621)]].
*[[William Bulkeley]] (1691 - 1760), tirfeddiannwr a dyddiadurwr o'r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn
*[[William Bulkeley]] (1691–1760), tirfeddiannwr a dyddiadurwr o'r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn


<gallery>
<gallery>
7thViscountBulkeley.jpg|Thomas Bulkeley, 7fed Is-iarll Bulkeley (1752-1822)
7thViscountBulkeley.jpg|Thomas Bulkeley, 7fed Is-iarll Bulkeley (1752-1822)
William Bulkeley Hughes.jpg|[[William Bulkeley Hughes]] AS (26 Gorffennaf, 1797 – 8 Mawrth, 1882)
William Bulkeley Hughes.jpg|[[William Bulkeley Hughes]] AS (26 Gorffennaf 1797 – 8 Mawrth 1882)
</gallery>
</gallery>



Golygiad diweddaraf yn ôl 09:57, 17 Ionawr 2022

Cofeb y teulu Bwcleaid, a godwyd yn 1875, tua 90tr o uchter. Fe'i codwyd yn gofeb i Syr Richard Bulkeley Williams 1801-1875.

Teulu a fu'n ddylanwadol ar Ynys Môn ac ardaloedd cyfagos am rai canrifoedd oedd teulu Bulkeley (neu'r Bwcleaid)[1]. Eu prif drigfan oedd Baron Hill gerllaw Biwmares, ond roedd nifer o ganghennau o'r teulu.

O ddwyrain Swydd Gaer yn Lloegr y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn 1450. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd William Bulkeley, y dyddiadurwr.

Bu aelod o brif gangen y teulu, Arthur Bulkeley, yn Esgob Bangor rhwng 1541 a 1552. Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley (bu farw 1621). Gwnaed ei fab, Thomas (1585-1659), yn Is-iarll Bulkeley.

Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeistrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y 16g hyd ganol y 19g. Torïaid uchel oeddynt o ran gwleidyddiaeth, ac yn y 18g amheuid hwy o gydymdeimlad a Jacobitiaeth. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll Thomas Bulkeley heb blant yn 1822. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.

Rhai aelodau nodedig[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2016.