Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Llyfryddiaeth: clean up |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|Gwlad Groeg}}}} |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r [[Theatr]] (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser [[Pyrrhus]] ([[297 CC]]-[[272 CC]]), yr [[acropolis]] (lliw brown), Teml [[Aphrodite]] (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, [[Temenos]] Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd [[basilica]] cynnar (rhif 16). |
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r [[Theatr]] (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser [[Pyrrhus]] ([[297 CC]]-[[272 CC]]), yr [[acropolis]] (lliw brown), Teml [[Aphrodite]] (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, [[Temenos]] Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd [[basilica]] cynnar (rhif 16). |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
Llinell 16: | Llinell 19: | ||
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwlad Groeg]] |
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwlad Groeg]] |
||
[[Categori:Mytholeg Glasurol]] |
|||
[[Categori:Groeg yr Henfyd]] |
[[Categori:Groeg yr Henfyd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:55, 11 Ionawr 2022
Math | safle archaeolegol, oracle, polis, hieron |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Epirus |
Sir | Bwrdeistref Dodoni |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Cyfesurynnau | 39.54639°N 20.78778°E |
Cyfnod daearegol | y cynfyd clasurol |
Statws treftadaeth | listed archaeological site in Greece |
Manylion | |
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i deml enwog Jupiter Ammon yn yr Aifft (ger tref werddon Siwa heddiw).
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 CC-272 CC), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)