Gwaith Mynyddog (Cyfres y Fil): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Teitl italig}} {{Pethau |image=Hen Fynwent Llanbrynmair.jpg |caption=Hen Fynwent Llanbrynmair}} Mae '''''Gwaith Mynyddog Cyfrol 1''''' a '''''Gwaith Mynyddog Cyfrol 2''''' yn ddwy gyfrol o gerddi gan Richard Davies (Mynyddog)<ref>{{Cite web|title=DAVIES, RICHARD ('Mynyddog'; 1833 - 1877), bardd, datgeiniad, ac arweinydd eisteddfodau {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1833|website=bywgraffiadur.cymru...'
 
Llinell 23: Llinell 23:


Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar [[Wicidestun]].
Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar [[Wicidestun]].

<blockquote>Ysgrifennwyd y llyfrau cyn cyhoeddi <nowiki>''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' ym 1929, mae sillafiad teitlau'</nowiki>r cerddi fel y maent yn orgraff y cyhoeddwr</blockquote>


===Cyfrol 1===
===Cyfrol 1===

Fersiwn yn ôl 00:31, 10 Ionawr 2022

Gwaith Mynyddog
Hen Fynwent Llanbrynmair

Mae Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 a Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 yn ddwy gyfrol o gerddi gan Richard Davies (Mynyddog)[1] a olygwyd gan D Emlyn Evans[2] ac a gyhoeddwyd gan Owen Morgan Edwards fel rhan o'i Gyfres y Fil ym 1914[3] a 1915. Bu farw Emlyn Evans cyn gorffen golygu Cyfrol 2, felly Edwards ei hun a orffennodd y gwaith.

Cefndir

Richard Davies (Mynyddog) (10 Ionawr 1833 – 14 Gorffennaf 1877) oedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod diwedd y Cyfnod Fictoraidd. Cyhoeddodd 3 llyfr o gerddi yn ystod ei oes:

  • Caneuon Mynyddog (Wrecsam, 1866)
  • Yr Ail Gynnig (Wrecsam, 1870)
  • Y Trydydd Cynnig (Wrecsam, 1877)

Roedd pedwerydd llyfr wedi ei baratoi i'r wasg ar adeg ei farwolaeth a gyhoeddwyd ym 1882

  • Pedwerydd Llyfr Mynyddog (Wrecsam, 1882)

Mae'r rhagymadrodd i'r gyfrol gyntaf o Waith Mynyddog yng Nghyfres y Fil yn dweud bod O M Edwards wedi bod yn siarad â chwaer Fynyddog. Rhoddodd hi wybod iddo fod "lliaws mawr o'i ganeuon gorau, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratôdd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg."[4] Wedi cael gafael ar swp o "ganeuon coll" gan y chwaer, aeth O M i holi Mrs A E Davies, gweddw Fynyddog i holi os oedd ychwaneg yn ei meddiant hi a chael gwybod bod. Caneuon yng ngofal y chwaer sydd yng Nghyfrol 1 a rhai yng ngofal y weddw sydd yn gyfrol 2.[5] Doedd Mrs Davies ddim mor awyddus a'i chwaer yng nghyfraith i gyhoeddi'r cerddi oedd ganddi hi gan ei bod yn gwybod eu bod yn ganeuon yn rhai penderfynodd y bardd i beidio â chynnwys yn ei lyfrau.

Y cerddi

Mae'r casgliadau yn cynnwys 154 o gerddi (77 yr un yn y ddwy gyfrol) mewn amrywiol arddulliau – englynion, cerddi doniol, emynau, cerddi dwys, cerddi i'w hadrodd, cerddi i'w canu. Caneuon gwladgarol Cymreig a chaneuon o glod i Brydain, Yr Ymerodraeth a'r Frenhines Victoria.

Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar Wicidestun.

Ysgrifennwyd y llyfrau cyn cyhoeddi ''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' ym 1929, mae sillafiad teitlau'r cerddi fel y maent yn orgraff y cyhoeddwr

Cyfrol 1

Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun

Cyfrol 2

Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun

Y Darluniau

Yn ogystal â'r cerddi mae'r gyfrolau yn cynnwys 11 llun, rhai yn ymwneud a bywyd Mynyddog, lluniau ohono ef a'i gartrefi, ac eraill i ddarlunio rhai o'r cerddi ee llun o ofaint i ddarlunio cerdd Y gof. Mae'r cyfan o'r lluniau yn rai o ardal Llanbrynmair lle fu'r bardd yn fyw. John Thomas, Galeri Cambrian, Lerpwl, tynnodd y rhan fwyaf o'r lluniau.

Cyfeiriadau

  1. "DAVIES, RICHARD ('Mynyddog'; 1833 - 1877), bardd, datgeiniad, ac arweinydd eisteddfodau | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
  2. "EVANS, DAVID EMLYN (1843 - 1913), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
  3. "Cymru | Vol. 46 | 1914 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
  4. Gwaith Mynyddog Cyfrol 1-Rhagymadrodd, ar Wicidestun
  5. Gwaith Mynyddog Cyfrol 2-Rhagymadrodd, ar Wicidestun