Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 23: Llinell 23:
== Ymdrechion y Cymry ==
== Ymdrechion y Cymry ==
Yr oedd effeithion ac profiadau y chwarelwyr yn effeithiol iawn o palmantu ffordd i'r fyddin ymdrechu, dyma un engrhaifft gan newyddiadurwr papur newydd '<nowiki/>''Caernarvon & Denbigh Herald' a oedd yn Ffrainc ar y pryd;'' <blockquote>''"Nid oes yr unrhyw milwyr wedi gwneud gwaith rhagorol gyda llai o ffwdan a drŵg-enwog na'r Cymry. Nid yw digwyddiadau fel clirio Coed Mametz, sydd wedi dod â nhw'n amlwg o flaen y cyhoedd, rhyfel cŵn yn cael ei ennill gan ambell bennod wych. Llawer o amser rwyf wedi cyfeirio at werth aruthrol y gwaith rhaw clodwiw, yn yr ystyr lythrennol, a wneir gan löwyr Cymru yn y gweithrediadau cloddio sy'n ffurfio rhan mor fawr o'r dasg o drefnu buddugoliaeth, ac mae'r Fyddin gyfan yn cydnabod y dewrder a ddangosir bôb amser ac o dan bôb cyflwr o straen a pherygl gan fataliwn arloesol Cymru. Byddai'n amhosibl cyfrif faint o filwyr traed eraill sy'n uno â nhw"''

''- Mr. H. Percy, Gwener 22 Mehefin 1917'' <ref>Caernarvon & Denbigh Herald. - Dydd Gwener 22 Mehefin 1917 - https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19170622/087/0008</ref></blockquote>

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:54, 12 Rhagfyr 2021

Brwydr Passchendaele
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata
Rhan oFfrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd31 Gorffennaf 1917 Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata
LleoliadPassendale Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBattle of Pilckem Ridge, Capture of Westhoek, Battle of Langemarck, Battle of the Menin Road Ridge, Battle of Polygon Wood, Battle of Broodseinde, Battle of Poelcappelle, First Battle of Passchendaele, Battle of La Malmaison, Second Battle of Passchendaele Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
RhanbarthZonnebeke Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Milwyr Awstralia yn ystod Brwydr Passchendaele, 29 Hydref 1917
Cleifion ar ochr y ffordd yn dilyn Brwydr Menin Road Ridge

Un o frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1917 oedd Brwydr Passchendaele (hefyd Trydedd Brwydr Ypres). Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.

Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef David Lloyd George, yn erbyn y frwydr am nifer o resymau [1]. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.

Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917.[2] Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.

Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglŷn â cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cynghreiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal.

Enwau'r Frwydr[golygu | golygu cod]

Mae Trydedd Brwydr Ypres yn enw cyffredin arall ar Frwydr Passchendaele. Am gyfnod, defnyddid yr enw Brwydr Messines 1917 yn ogystal. Yr enw yn Almaeneg yw Trydedd Brwydr Fflandrys (Almaeneg: 'Dritte Flandernschlacht'), a'r enw Ffrangeg yw Ail Frwydr Fflandrys (Ffrangeg: '2ème Bataille des Flandres').

Hedd Wyn[golygu | golygu cod]

Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf, diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:

"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele. O’n ni’n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ac mi lladdwyd o ar hanner Pilckem… Mi gweles o'n syrthio. Ac mi allaf ddeud mai nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. O’ch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".[3]

Ym Mrwydr Cefn Pilckem hefyd y bu farw'r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge.

Ymdrechion y Cymry[golygu | golygu cod]

Yr oedd effeithion ac profiadau y chwarelwyr yn effeithiol iawn o palmantu ffordd i'r fyddin ymdrechu, dyma un engrhaifft gan newyddiadurwr papur newydd 'Caernarvon & Denbigh Herald' a oedd yn Ffrainc ar y pryd;

"Nid oes yr unrhyw milwyr wedi gwneud gwaith rhagorol gyda llai o ffwdan a drŵg-enwog na'r Cymry. Nid yw digwyddiadau fel clirio Coed Mametz, sydd wedi dod â nhw'n amlwg o flaen y cyhoedd, rhyfel cŵn yn cael ei ennill gan ambell bennod wych. Llawer o amser rwyf wedi cyfeirio at werth aruthrol y gwaith rhaw clodwiw, yn yr ystyr lythrennol, a wneir gan löwyr Cymru yn y gweithrediadau cloddio sy'n ffurfio rhan mor fawr o'r dasg o drefnu buddugoliaeth, ac mae'r Fyddin gyfan yn cydnabod y dewrder a ddangosir bôb amser ac o dan bôb cyflwr o straen a pherygl gan fataliwn arloesol Cymru. Byddai'n amhosibl cyfrif faint o filwyr traed eraill sy'n uno â nhw"

- Mr. H. Percy, Gwener 22 Mehefin 1917 [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Terraine, John (1977). The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability. Llundain: Leo Cooper. ISBN 0-436-51732-9
  2. Sheldon, Jack (2007). The German Army at Passchendaele. Barnsley: Pen and Sword Books, tud. xiv. ISBN 1-84415-564-1
  3. "Bardd Cymraeg yn cwympo yn Fflandrys". amgueddfacymru.ac.uk. 2007-04-25. Cyrchwyd 2017-08-28.
  4. Caernarvon & Denbigh Herald. - Dydd Gwener 22 Mehefin 1917 - https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19170622/087/0008