Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
:''Gweler hefyd [[Bangor (gwahaniaethu)]].'' |
:''Gweler hefyd [[Bangor (gwahaniaethu)]].'' |
||
Pentref hanesyddol a [[Cymuned ( |
Pentref hanesyddol a [[Cymuned (Cymru)|chymuned]] ym mwrdeistref sirol [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]], [[Cymru]], yw '''Bangor is y Coed'''({{Sain|Bangor-is-y-coed.ogg|ynganiad}}), hefyd '''Bangor Is-Coed''' ([[Saesneg]]: ''Bangor-on-Dee''). Saif ar [[Afon Dyfrdwy]]. Mae [[cae rasio]] ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref. |
||
Cynrychiolir yr ardal hon yn [[Senedd Cymru]] gan {{Swits De Clwyd i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yw {{Swits De Clwyd i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref> |
Cynrychiolir yr ardal hon yn [[Senedd Cymru]] gan {{Swits De Clwyd i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yw {{Swits De Clwyd i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref> |
Fersiwn yn ôl 13:50, 10 Tachwedd 2021
Pont Bangor-is-y-coed dros y Ddyfrdwy a'r eglwys leol | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,110 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 851.81 ha |
Cyfesurynnau | 53.0035°N 2.9112°W |
Cod SYG | W04000215 |
Cod OS | SJ388454 |
Cod post | LL11 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
- Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).
Pentref hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bangor is y Coed( ynganiad ), hefyd Bangor Is-Coed (Saesneg: Bangor-on-Dee). Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Mynachlog Bangor is y Coed
Roedd clas (mynachlog) Bangor is y Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6g, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).
Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor is y Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.
Y pentref
Mae pont pump bwa, Pont Bangor-is-y-coed sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre