Tomos o Acwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: yi:טאמאס פון אקווינא |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: mr:थॉमस अॅक्विनास |
||
Llinell 78: | Llinell 78: | ||
[[ml:തോമസ് അക്വീനാസ്]] |
[[ml:തോമസ് അക്വീനാസ്]] |
||
[[mn:Аквины Фома]] |
[[mn:Аквины Фома]] |
||
[[mr:थॉमस अॅक्विनास]] |
|||
[[nds-nl:Thomas van Aquino]] |
[[nds-nl:Thomas van Aquino]] |
||
[[nl:Thomas van Aquino]] |
[[nl:Thomas van Aquino]] |
Fersiwn yn ôl 17:21, 24 Hydref 2011
Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r Eidal oedd Thomas Aquinas, O.P. (hefyd Thomas o Aquin neu Acwin neu Aquino; c. 1225 - 7 Mawrth 1274). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y Doctor Angelicus, Doctor Universalis a Doctor Communis. Ystyria'r Eglwys Gatholig ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn offeiriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau Summa Theologica a Summa Contra Gentiles.
Ganed Aquinas yng nghastell Roccasecca yn Nheyrnas Sicilia yn yr hyn sy'n awr yn Regione Lazio. Roedd o deulu o uchel dras, ei dad, Landulf, yn Gownt a'i fam yn perthyn i linach yr Hohenstaufen. Roedd ei ewythr, Sinibald, yn abad abaty Monte Cassino, a bwriad y teulu oedd i Thomas ei olynu.
Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Napoli, lle daeth dan ddylanwad Urdd y Dominiciaid. Roedd ei delu yn anfodlon iawn ar hyn, gan ei garcharu am flwyddyn, ond wedi i'r Pab gymeryd rhan yn y mater, rhyddhawyd ef ac ymunodd a'r Urdd. Bu'n astudio yn ysgol y Dominiciaid yng Nghwlen dan Albertus Magnus, yna symudodd gydag Albertus i Brifysgol Paris. Daeth yn ddarlithydd yng Nghwlen yn 1248, a dechreuodd ysgrifennu. Bu'n darlithio ym Mharis, Rhufain a dinasoedd eraill.