An t-Sàilean: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
B cysoni TBC
B Symudodd Llygadebrill y dudalen Ant-Sailean i An t-Sàilean: Orgraff Gaeleg safonol (dw i'n meddw;!)
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:02, 7 Hydref 2021

Ant-Sailean
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.5167°N 5.9475°W Edit this on Wikidata
Map

Mae An t-Sàilean (Saesneg: Salen) yn bentref at ynys Muile, Yr Alban. Mae gan y pentref swyddfa’r post, ysgol gynradd, eglwys ac archfarchnad.[1]

Gweddillion y pier ym Mae Salen

Hanes[golygu | golygu cod]

Dywedir bod Sant Columba wedi pregethu yn An t-Sàilean yn ystod yr 500au hwyr. Mae Castell Aros dwy filltir i’r gogledd o’r pentref ac mae Capel Pennygown dwy filltir i’r dwyrain. Yn ystod y 1800au cynnar, penderfynodd Lachlan MacQuarie sefydlu’r pentref a harbwr ar yr arfordir ger ei stad. Daeth MacQuarie yn Llywodraethwr De Cymru Newydd, Awstralia ac mae ei fedd ym Meddrod MacQuarie dwy filltir i’r de-orllewin o’r pentref.[2]

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Hyd at 1964, roedd y fferi o Oban i Tobar Mhoire, yn ymweld â An t-Sàilean. Ond daeth fferiau’n rhy fawr, a sefydlwyd Craignure. Mae dau hen bier y pentref yn adfeilion bellach, ond mae pier newydd erbyn hyn. Mae maes awyr Glenforsa ar laswellt, ac roedd gwasanaeth o Glasgow hyd at 1980. Defnyddir Glenforsa gan awyrennau ysgafn yn unig erbyn hyn. Mae Gwesty Glenforsa ger y maes awyr.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]