Asilah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: ru:Асила
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ko:아실라
Llinell 22: Llinell 22:
[[it:Assilah]]
[[it:Assilah]]
[[ja:アシラー]]
[[ja:アシラー]]
[[ko:아실라]]
[[nl:Asilah]]
[[nl:Asilah]]
[[pl:Asila]]
[[pl:Asila]]

Fersiwn yn ôl 07:00, 24 Hydref 2011

Asilah

Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة‎), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.

Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10fed ganrif ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato