Dinamo Zagreb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8.1
Llinell 53: Llinell 53:
[[File:Dinamo BBB 2008.jpg|right|300px|thumb|Cefnogwyr Dinamo]]
[[File:Dinamo BBB 2008.jpg|right|300px|thumb|Cefnogwyr Dinamo]]
Ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]], cafwyd wared ar dri o brif glybiau pêl-droed Croatia (HAŠK, Građanski a Concordia). Y tîm fwyaf oedd Građanski a sefydlwyd yn 1911.
Ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]], cafwyd wared ar dri o brif glybiau pêl-droed Croatia (HAŠK, Građanski a Concordia). Y tîm fwyaf oedd Građanski a sefydlwyd yn 1911.
Ei henw llawn Croatieg oedd ''Prvi hrvatski građanski športski klub'' sef; "Y Clwb Chwaraeon Dinesig Croateg Cyntaf") a ddadsefydlwyd gan Tito gan iddo gredu mai clwb "ffasgaidd" a "chenedletholaidd" oedd hi. Ar 19 Mehefin 1945 crëwyd clwb newydd yn y ddinas o'r enw Dinamo (neu "Dynamo") gan ddilyn yr arfer o roi enw ag iddi naws [[Comiwnyddiaeth|Gomiwnyddol]] i'r clwb - megis [[FC Dynamo Kyiv]], [[Dinamo Tirana]], Dinamo Tblisi yn yr Undeb Sofietaidd. Mae [[Dynamo (Cymdeithas Chwaraeon)|Cymdeithas Chwaraeon Dynamo]] yn rwydwaith o glybiau chwaraeon a ddatblygwyd yn yr [[Undeb Sofietaidd]] yn 1923 gan ysgogiad Felix Dzerzhinsky, pennaeth heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd, yr [[NKVD]] ac o'r herwydd fe gysylltir teimau a chlybiau chwaraeon yn yr hen wledydd [[Sofietaidd]] gyda'r Weinyddiaeth Cartref a'r Heddlu Cudd.<ref>http://www.dynamo.su/</ref><ref>https://dynamo.org.ru/</ref> Roedd hyn oherwydd fod [[Tito]] a'r Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia wed curo'r [[Natsiaeth|Naziaid]] Almaeneg a oresgynnodd Iwsoglafia yn 1941 a hefyd wedi curo'r brenhinwyr Iwgoslaf oedd am ail-reoli'r wlad fel teyrnas unedig.
Ei henw llawn Croatieg oedd ''Prvi hrvatski građanski športski klub'' sef; "Y Clwb Chwaraeon Dinesig Croateg Cyntaf") a ddadsefydlwyd gan Tito gan iddo gredu mai clwb "ffasgaidd" a "chenedletholaidd" oedd hi. Ar 19 Mehefin 1945 crëwyd clwb newydd yn y ddinas o'r enw Dinamo (neu "Dynamo") gan ddilyn yr arfer o roi enw ag iddi naws [[Comiwnyddiaeth|Gomiwnyddol]] i'r clwb - megis [[FC Dynamo Kyiv]], [[Dinamo Tirana]], Dinamo Tblisi yn yr Undeb Sofietaidd. Mae [[Dynamo (Cymdeithas Chwaraeon)|Cymdeithas Chwaraeon Dynamo]] yn rwydwaith o glybiau chwaraeon a ddatblygwyd yn yr [[Undeb Sofietaidd]] yn 1923 gan ysgogiad Felix Dzerzhinsky, pennaeth heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd, yr [[NKVD]] ac o'r herwydd fe gysylltir teimau a chlybiau chwaraeon yn yr hen wledydd [[Sofietaidd]] gyda'r Weinyddiaeth Cartref a'r Heddlu Cudd.<ref>http://www.dynamo.su/</ref><ref>{{Cite web |url=https://dynamo.org.ru/ |title=copi archif |access-date=2019-06-12 |archive-date=2019-06-23 |archive-url=https://web.archive.org/web/20190623125206/https://dynamo.org.ru/ |url-status=dead }}</ref> Roedd hyn oherwydd fod [[Tito]] a'r Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia wed curo'r [[Natsiaeth|Naziaid]] Almaeneg a oresgynnodd Iwsoglafia yn 1941 a hefyd wedi curo'r brenhinwyr Iwgoslaf oedd am ail-reoli'r wlad fel teyrnas unedig.


Ymunodd y rhan fwyaf o chwaraewyr clwb Građanski, yn ogystal â'r hyfforddwr, â Dinamo, a ddefnyddiodd y stadiwm HAŠK gynt, yn ogystal â rhai chwaraewyr o'r clwb hwn. Mabwysiadodd hefyd liw glas y Građanski ac ers 1969, mae arwyddlun y clwb yn debyg iawn i arwyddlun y clwb hwn.
Ymunodd y rhan fwyaf o chwaraewyr clwb Građanski, yn ogystal â'r hyfforddwr, â Dinamo, a ddefnyddiodd y stadiwm HAŠK gynt, yn ogystal â rhai chwaraewyr o'r clwb hwn. Mabwysiadodd hefyd liw glas y Građanski ac ers 1969, mae arwyddlun y clwb yn debyg iawn i arwyddlun y clwb hwn.

Fersiwn yn ôl 09:23, 4 Hydref 2021

Dinamo Zagreb
Enw llawnGrađanski nogometni klub Dinamo Zagreb, (Citizens' Football Club Dinamo Zagreb)
LlysenwauModri (Y Gleision)
Enw byrDZG, DIN
Sefydlwyd26 April 1911; 112 o flynyddoedd yn ôl (26 April 1911) as HŠK Građanski[1]
9 June 1945; 78 o flynyddoedd yn ôl (9 June 1945) as NK Dinamo
MaesStadion Maksimir
(sy'n dal: 35,123[2])
CadeiryddMirko Barišić
RheolwrNenad Bjelica
CynghrairPrva HNL
2019/20Prva HNL, 1st of 10 (Champions)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis

Mae GNK Dinamo Zagreb (neu, fel rheol Dinamo Zagreb) yn un o dimau pêl-droed Zagreb, Croatia. Dinamo yw clwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus y wlad a'r unig glwb i ennill cystadlaeth pan-Ewropeaidd. Prif wrthwynebwyr y clwb yw Hajduk Split, gelwyr y gemai darbi yma yn "Darbi Tragwyddol" (Vječni derbi). Llysenw'r clwb yw Modri ("Gleision").

Hanes

Cefnogwyr Dinamo

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, cafwyd wared ar dri o brif glybiau pêl-droed Croatia (HAŠK, Građanski a Concordia). Y tîm fwyaf oedd Građanski a sefydlwyd yn 1911. Ei henw llawn Croatieg oedd Prvi hrvatski građanski športski klub sef; "Y Clwb Chwaraeon Dinesig Croateg Cyntaf") a ddadsefydlwyd gan Tito gan iddo gredu mai clwb "ffasgaidd" a "chenedletholaidd" oedd hi. Ar 19 Mehefin 1945 crëwyd clwb newydd yn y ddinas o'r enw Dinamo (neu "Dynamo") gan ddilyn yr arfer o roi enw ag iddi naws Gomiwnyddol i'r clwb - megis FC Dynamo Kyiv, Dinamo Tirana, Dinamo Tblisi yn yr Undeb Sofietaidd. Mae Cymdeithas Chwaraeon Dynamo yn rwydwaith o glybiau chwaraeon a ddatblygwyd yn yr Undeb Sofietaidd yn 1923 gan ysgogiad Felix Dzerzhinsky, pennaeth heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd, yr NKVD ac o'r herwydd fe gysylltir teimau a chlybiau chwaraeon yn yr hen wledydd Sofietaidd gyda'r Weinyddiaeth Cartref a'r Heddlu Cudd.[3][4] Roedd hyn oherwydd fod Tito a'r Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia wed curo'r Naziaid Almaeneg a oresgynnodd Iwsoglafia yn 1941 a hefyd wedi curo'r brenhinwyr Iwgoslaf oedd am ail-reoli'r wlad fel teyrnas unedig.

Ymunodd y rhan fwyaf o chwaraewyr clwb Građanski, yn ogystal â'r hyfforddwr, â Dinamo, a ddefnyddiodd y stadiwm HAŠK gynt, yn ogystal â rhai chwaraewyr o'r clwb hwn. Mabwysiadodd hefyd liw glas y Građanski ac ers 1969, mae arwyddlun y clwb yn debyg iawn i arwyddlun y clwb hwn.

Dinamo yw'r unig glwb Croateg sydd i ennil tlŵs Ewropeaidd, ar ôl ennill Cwpan Ffeiriau Rhyng-Ddinasoedd 1966–67 trwy drechu Leeds United yn y rownd derfynol. Maent hefyd wedi gorffen yn ail yn yr un gystadleuaeth yn 1963 pan gollon nhw i Valencia CF.

Yn 1991 newidiodd y clwb ei enw i HAŠK-Građanski, ac yn 1993 newidiodd ei enw eto, gan fabwysiadu Croatia Zagreb. Dywedir y bu i'r newid enw i Croatia Zagreb fod o dan bwysau Arlywydd newydd Croatia annibynnol Franjo Tuđjman oedd am sefydlu naws mwy genedlaethol a di-Gomiwynddol i brif clwb y wlad annibynnol newydd. Cysylltwyd y newidiadau enw hyn â chefnogaeth y wladwriaeth Croatia newydd. Ni chafodd yr enwau newydd eu derbyn yn llawn gan y dilynwyr, ac yn 2000 dychwelodd i'w enw NK Dinamo Zagreb. Yn 2011, dechreuodd rheolwyr y clwb yn gynyddol honni bod Dinamo yn ddisgynnydd uniongyrchol i glwb Grakianski (a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1911 ac a ddiddymwyd ym 1945) ac ym mis Ebrill y flwyddyn honno penderfynodd ragflaenu'r ansoddair "Građanski" i enw swyddogol y clwb, gan ei droi'n y GNK Dinamo heddiw (Građanski nogometni klub Dinamo neu "Clwb Pêl-droed Dinasyddion Dinamo").

Gêm Enwog yn erbyn Dinamo Zagreb a diwedd Iwgoslafia

Bydd nifer yn nodi i gêm chwerw ac ymladd rhwng Seren Goch Belgrâd a Dinamo Zagreb [5] ar 13 Mai 1990 arwain, neu rhoi rhagflas, o'r rhyfel a ymraniad yr hen Iwgoslafia ac annibyniaeth Croatia yn 1991.[6] Bu ymladd ffyrnid rhwng "Bad Blue Boys" ffans ultras Dinamo yn erbyn ffans ultra Seren Goch, "Delije". Credai'r Croatiaid bod Seren Goch eisiau ymladd gan wybod y byddai'r heddlu yn eu cefnogi. Ymysg ffans mwyaf cythryblus Seren Goch oedd "Arkan" a oedd yn ôl y newyddiadurwr Dražen Krušelj yr un Arkan a aeth ymlaen i arwain ymladd a lladd yn erbyn Croatiaid yn y rhyfel a ddechreuodd wedi datganiad annibyniaeth Croatia ym Mehefin 1991.[6]

Cit

Glas yw lliw y clwb - crys, trwsus a sannau a dyna sy'n rhoi'r llysenw Modri iddynt. Mae'r arlwyddlun yn cynnwys y lythyren 'D' a hefyd cip o'r arfbais genedlaethol coch a gwyn Croatia y šahovnica (bwrdd gwyddbwyll - o'r gair 'siach' a ddaw yn wreiddiol o'r gair Farsi "Shah" sef 'brenin).

Anrhydeddau

Cystadlaethau Cenedlaethol - Iwgoslafia a Chroatia

Cynghrair Bêl-droed Iwsgolafia (4 fel Dinamo; 5 gwaith fel a ddiddymwyd ym 1945): 1923, 1926, 1928, 1936-37, 1939-40, 1947–48, 1953–54, 1957–58, 1981–82
Cwpan Iwgoslafia (7): 1951, 1959–60, 1962–63, 1964–65, 1968–69, 1979–80, 1982–83
Uwch Gynghrair Croatia (y Prva HNL, 1.): (21): 1992–93, 1995–96, 1996–97, 1997–98, 1998–99, 1999–00, 2002–03, 2005–06, 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2009–10, 2010–11, 2011–12, 2012–13, 2013–14, 2014–15, 2015–16, 2017–18, 2018–19, 2019/20
Cwpan Croatia (15): 1993–94, 1995–96, 1996–97, 1997–98, 2000–01, 2001–02, 2003–04, 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2010–11, 2011–12, 2014–15, 2015–16, 2017–18
Supercup Croatia (5): 2002, 2003, 2006, 2010, 2013

Cystadlaethau Tramor

Cwpan y Ffeiriau (1): 1967
Rownd derfynnol Cwpan y Ffeiriau (1): 1963
Cwpan y Balcanau (1): 1977

Gweler Hefyd

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. https://gnkdinamo.hr/EN/Club/History
  2. "Stadion Maksimir". GNK Dinamo Zagreb. Cyrchwyd 2017-07-26.
  3. http://www.dynamo.su/
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 2019-06-12.
  5. https://www.youtube.com/watch?v=TwMq0GF7irE
  6. 6.0 6.1 https://www.youtube.com/watch?v=AFGI7m7_SMM