De Affrica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8.1
Llinell 4: Llinell 4:
Gweriniaeth yn [[Affrica]] sydd yn cynnwys [[Penrhyn Gobaith Dda]] yw '''De Affrica''' neu '''De'r Affrig'''. Gwledydd cyfagos yw [[Namibia]], [[Botswana]], [[Simbabwe]], [[Mosambic]], [Eswatini]] a [[Lesotho]].
Gweriniaeth yn [[Affrica]] sydd yn cynnwys [[Penrhyn Gobaith Dda]] yw '''De Affrica''' neu '''De'r Affrig'''. Gwledydd cyfagos yw [[Namibia]], [[Botswana]], [[Simbabwe]], [[Mosambic]], [Eswatini]] a [[Lesotho]].


O holl wledydd cyfandir [[Affrica]], De Affrica yw'r wlad sydd wedi gweld y [[mewnfudiad]] mwyaf o bobl o [[Ewrop]], yn arbennig o'r [[Iseldiroedd]] a [[Prydain|Phrydain]], ond hefyd o [[Ffrainc]] a'r [[Almaen]]. [[Trefedigaeth]] Iseldiraidd oedd yna yn y dechreuad,<ref>{{cite web|url=http://courses.wcupa.edu/jones/his311/timeline/t-19saf.htm|title=African History Timeline|publisher=Prifysgol West Chester, Pennsylvania}}</ref> ond cafodd [[Prydain Fawr]] [[Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Dda]] o'r Iseldiroedd ar ôl [[cytundeb Amiens]] yn 1805. Yn y [[1830au]] a'r [[1840au]] symudodd ymsefydlwyr Iseldiraidd i barthau y tu fewn yr wlad i sefydlu y [[Gweriniaethau Boer]] yn [[Transvaal|Nhransvaal]] a'r [[Talaith Rydd Oren|Dalaith Rydd Oren]].
O holl wledydd cyfandir [[Affrica]], De Affrica yw'r wlad sydd wedi gweld y [[mewnfudiad]] mwyaf o bobl o [[Ewrop]], yn arbennig o'r [[Iseldiroedd]] a [[Prydain|Phrydain]], ond hefyd o [[Ffrainc]] a'r [[Almaen]]. [[Trefedigaeth]] Iseldiraidd oedd yna yn y dechreuad,<ref>{{cite web|url=http://courses.wcupa.edu/jones/his311/timeline/t-19saf.htm|title=African History Timeline|publisher=Prifysgol West Chester, Pennsylvania|access-date=2013-02-16|archive-date=2009-01-07|archive-url=https://web.archive.org/web/20090107070748/http://courses.wcupa.edu/jones/his311/timeline/t-19saf.htm|url-status=dead}}</ref> ond cafodd [[Prydain Fawr]] [[Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Dda]] o'r Iseldiroedd ar ôl [[cytundeb Amiens]] yn 1805. Yn y [[1830au]] a'r [[1840au]] symudodd ymsefydlwyr Iseldiraidd i barthau y tu fewn yr wlad i sefydlu y [[Gweriniaethau Boer]] yn [[Transvaal|Nhransvaal]] a'r [[Talaith Rydd Oren|Dalaith Rydd Oren]].


== Daearyddiaeth ==
== Daearyddiaeth ==

Fersiwn yn ôl 08:25, 4 Hydref 2021

De Affrica
Arwyddairǃke e: ǀxarra ǁke Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlde, Affrica Edit this on Wikidata
Lb-Südafrika.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Africa de Sud.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-দক্ষিণ আফ্রিকা.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-جنوب أفريقيا.wav, LL-Q9027 (swe)-Moonhouse-Sydafrika.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasPretoria, Bloemfontein, Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
Poblogaeth62,027,503 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 31 Mai 1910 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem genedlaethol De Affrica Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCyril Ramaphosa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, Africa/Johannesburg Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAisai Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Affricaneg, Ndebele y De, Gogledd Sothoeg, Sesotho, siSwati, Tsonga, Setswana, Venda, Xhosa, Swlŵeg, Iaith Arwyddo De Affrica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner De Affrica De Affrica
Arwynebedd1,221,037 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,037 metr Edit this on Wikidata
GerllawSouth Atlantic Ocean, Cefnfor India Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNamibia, Botswana, Lesotho, Simbabwe, Eswatini, Mosambic Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29°S 24°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth De Affrica Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd De Affrica Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd De Affrica Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethCyril Ramaphosa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd De Affrica Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCyril Ramaphosa Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$419,016 million, $405,870 million Edit this on Wikidata
ArianRand De Affrica Edit this on Wikidata
Canran y diwaith27.2 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.363 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.713 Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl yma am y wlad. Am yr ardal o'r cyfandir Affrica, gwelwch De Affrica (rhanbarth).

Gweriniaeth yn Affrica sydd yn cynnwys Penrhyn Gobaith Dda yw De Affrica neu De'r Affrig. Gwledydd cyfagos yw Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic, [Eswatini]] a Lesotho.

O holl wledydd cyfandir Affrica, De Affrica yw'r wlad sydd wedi gweld y mewnfudiad mwyaf o bobl o Ewrop, yn arbennig o'r Iseldiroedd a Phrydain, ond hefyd o Ffrainc a'r Almaen. Trefedigaeth Iseldiraidd oedd yna yn y dechreuad,[1] ond cafodd Prydain Fawr Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Dda o'r Iseldiroedd ar ôl cytundeb Amiens yn 1805. Yn y 1830au a'r 1840au symudodd ymsefydlwyr Iseldiraidd i barthau y tu fewn yr wlad i sefydlu y Gweriniaethau Boer yn Nhransvaal a'r Dalaith Rydd Oren.

Daearyddiaeth

Saif De Affrica ar ran deheuol cyfandir Affrica, wedi ei hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. Mae gan y wlad dros 2,500 km (1,553 milltir) o arfordir. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic a Eswatini, tra mae Lesotho yn cael ei hamgylchynu gan Dde Affrica.

O gwmpas yr arfordir mae rhimyn gweddol gul o dir isel, er ei fod yn lletach mewn ambell fan, megis talaith KwaZulu-Natal yn y dwyrain. Yng nghanol y wlad mae llwyfandir uchel. Yn rhan orllewinol y llwyfandir yma, ceir y Karoo, sy'n boeth iawn yn yr haf ond yn oer iawn yn y gaeaf. Dim ond dwy afon fawr sydd gan Dde Affrica, Afon Limpopo ac Afon Oren.

Mynydd uchaf y wlad yw Njesuthi, sy'n 3,410 metr o uchder. Saif yng ngorllewin y wlad, ar y ffîn â Lesotho.

Hanes

Ceir tystiolaeth archaeolegol fod yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un grud esblygiad pobol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn ôl tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf yno rhwng 125 000 a 50 000 o flynyddoedd yn ôl.

Trigolion cyntaf De Affrica oedd pobl Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu (hynafiaid y mwyafrif o bobl duon y Dde Affrica fodern) gyrraed tua 100 OC, gan ddod â dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi).

Y sefydlwyr Ewropeaidd cyntaf yn Ne Affrica oedd yr Iseldirwyr. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Gwladfa'r Penrhyn o'r Iseldirwyr am £6 miliwn. Ar ôl 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833. Yn yr un cyfnod, ymestynnodd y Zulu, dan eu brenin Shaka, eu hawdurdod dros ran helaeth o'r hyn sy'n awr yn Dde Affrica.

Teimladau chwerw oedd gan y trigolion o dras Iseldiraedd, a ddaeth i'w handnabod fel y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10 000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Oren, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843.

Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Gwladfa'r Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Oren yn 1848. Ond gwadwyd ei bolisïau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854.

Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny. Ymladdwyd Ail Ryfel y Boer rhwng 1899 a 1902. Ceisiodd yr Ymerodraeth Brydeinig feddiannu tiriogaethau gweriniaethau annibynnol y Boeriaid. Disgwylid y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond llwyddodd y Boeriaid i wrthsefyll byddinoedd yr ymerodraeth am dair blynedd. Yn y diwedd, ymgorfforwyd y gweriniaethau yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd". Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dŵf wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais. Daeth Nelson Mandela yn Arlywydd, a pharhaodd yn y swydd hyd 1999, pan olynwyd ef gan Thabo Mbeki.

Gwleidyddiaeth

Taleithiau

Ers 1994, mae naw talaith (gyda'u prifddinasoedd):

Diwylliant

Economi

Demograffeg

Poblogaeth De Affrica 1961-2004
Cyfrifiad 2001 Amcangyfrif 2006
Poblogaeth 44,819,778 47,390,900
Grŵp ethnig (%)
Du Affricanaidd
Gwyn
Cymysg
Indiaidd neu Asiaidd
79.0
9.6
8.9
2.5
79.5
9.2
8.9
2.5
Iaith Gartref (%)
Swlw
Xhosa
Afrikaans
Sotho'r Gogledd
Saesneg
Tswana
Sesotho (Sotho'r De)
Tsonga
Swati
Venda
Ndebele
23.8
17.6
13.3
9.4
8.2
8.2
7.9
4.4
2.7
2.3
1.6

Cyfeiriadau

  1. "African History Timeline". Prifysgol West Chester, Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-07. Cyrchwyd 2013-02-16.