Magi Dodd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hughpugh2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10: Llinell 10:
Daeth yn llais cyfarwydd ar raglenni ''C2'' ar [[BBC Radio Cymru]], i ddechrau fel gohebydd cerdd a throslais. Rhwng 2007 a 2010, cyflwynodd Dodd y brif slot nosweithiol rhwng 8 a 10yh. Fe’i clywyd yn cyflwyno ochr yn ochr â [[Glyn Wise]], chyn-gystadleuydd Big Brother.
Daeth yn llais cyfarwydd ar raglenni ''C2'' ar [[BBC Radio Cymru]], i ddechrau fel gohebydd cerdd a throslais. Rhwng 2007 a 2010, cyflwynodd Dodd y brif slot nosweithiol rhwng 8 a 10yh. Fe’i clywyd yn cyflwyno ochr yn ochr â [[Glyn Wise]], chyn-gystadleuydd Big Brother.


Yn ddiweddarach, bu'n cyflwyno ''Dodd Com'', sioe nosweithiol ar gyfer gwefan Radio Cymru,<ref>https://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/oriel/dodd_com/</ref> a rhalgen ''Cwis Pop Radio Cymru'', gyda Ifan Sion Davies.
Yn ddiweddarach, bu'n cyflwyno ''Dodd Com'', sioe nosweithiol ar gyfer gwefan Radio Cymru,<ref>https://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/oriel/dodd_com/</ref> a rhaglen ''Cwis Pop Radio Cymru'', gyda Ifan Sion Davies.


Canolbwyntiodd ar ei gwaith cynhyrchu ar gyfer yr orsaf, gan gynnwys rhaglenni fel ''Bore Cothi'', y sioe frecwast ar Radio Cymru 2, a rhaglen ''Llais y Maes'' yn ystod y [[Eisteddfod Genedlaethol]].<ref>{{Cite web|url=https://www.celticmediafestival.co.uk/view-entry/4265|title=Llais y Maes - Celtic Music Festival|date=4 May 2018|accessdate=23 September 2021}}</ref>
Wedi hynny, canolbwyntiodd ar ei gwaith cynhyrchu ar gyfer yr orsaf, gan gynnwys rhaglenni fel ''Bore Cothi'', y sioe frecwast ar Radio Cymru 2, a rhaglen ''Llais y Maes'' yn ystod y [[Eisteddfod Genedlaethol]].<ref>{{Cite web|url=https://www.celticmediafestival.co.uk/view-entry/4265|title=Llais y Maes - Celtic Music Festival|date=4 May 2018|accessdate=23 September 2021}}</ref>


==Torri Tir Newydd==
==Torri Tir Newydd==

Fersiwn yn ôl 23:23, 23 Medi 2021

Magi Dodd
Ganwyd8 Mawrth 1977 Edit this on Wikidata
Bu farwMedi 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd radio, cynhyrchydd radio Edit this on Wikidata

Cyflwynydd radio a cynhyrchydd o Gymraes oedd Magi Dodd (8 Mawrth 1977 – Medi 2021).

Yn wreiddiol o Bontypridd, bu'n byw yn ddiweddarach yn Nhrelluest, Caerdydd.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen yn Nhrefforest ac astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[2]

Cyhoeddwyd ei marwolaeth ar 22 Medi 2021. Roedd yn 44 oed.[3]

Gyrfa

Daeth yn llais cyfarwydd ar raglenni C2 ar BBC Radio Cymru, i ddechrau fel gohebydd cerdd a throslais. Rhwng 2007 a 2010, cyflwynodd Dodd y brif slot nosweithiol rhwng 8 a 10yh. Fe’i clywyd yn cyflwyno ochr yn ochr â Glyn Wise, chyn-gystadleuydd Big Brother.

Yn ddiweddarach, bu'n cyflwyno Dodd Com, sioe nosweithiol ar gyfer gwefan Radio Cymru,[4] a rhaglen Cwis Pop Radio Cymru, gyda Ifan Sion Davies.

Wedi hynny, canolbwyntiodd ar ei gwaith cynhyrchu ar gyfer yr orsaf, gan gynnwys rhaglenni fel Bore Cothi, y sioe frecwast ar Radio Cymru 2, a rhaglen Llais y Maes yn ystod y Eisteddfod Genedlaethol.[5]

Torri Tir Newydd

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen (Ysgol Gyfun Garth Olwg bellach) ger Pontypridd. Fe achosodd ei hacen Rhydfelen beth gwrthwynebiad gan rai o wrandawyr Radio Cymru, tra bod eraill yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi clywed eu hacen ar yr orsaf genedlaethol.[6]

Magwyd Magi ar aelwyd ddwyieithog ac er bod ei mam yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, atgofiodd Magi ei barn ar gerddoriaeth Gymraeg ar y pryd, "o ni'n meddwl bo pawb oedd yn canu Cymraeg yn swnio fel Mabstant neu Triban". Bu gwrando ar fandiau poblogaidd yr 1990au fel Jess a Beganifs yn "agoriad llygad iddi" pan oedd oddeutu 14 oed.[7]

Mewn cyfweliad i'r cylchgrawn Y Selar yn Awst 2009, mae'n nodi ei hoff 5 albwm oedd yn cynnwys: Ni oedd y Genod Droog gan y Genod Droog; Boomania gan Betty Boo; O'r Gâd - Casgliad Amlgyfranog Ankst; Way to Blue, an introduction to Nick Drake gan Nick Drake; a, Ffraeth gan y Beganifs.[8]

Teyrngedau

Yn ogystal â theyrngedau gan gydweithwyr yn BBC Radio Cymru derbyniodd Magi a'i theulu negeseuon o hiraeth gan aelodau'r cyhoedd a phobl amlwg yn y Gymru Gymraeg megis Carys Eleri, Glyn Wise a Label Pyst.[9]

Cyfeiriadau

  1.  Ivan Rodrigues (11 Hydref 2007). Magi’s radio show is on the move. Pontypridd Observer.
  2. "Tributes to Radio Cymru producer and presenter Magi Dodd". The National (yn Saesneg). 2021-09-22. Cyrchwyd 2021-09-23.
  3. "Y cyflwynydd a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2021-09-22. Cyrchwyd 2021-09-22.
  4. https://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/oriel/dodd_com/
  5. "Llais y Maes - Celtic Music Festival". 4 May 2018. Cyrchwyd 23 September 2021.
  6. https://twitter.com/math_jones/status/1440741610195603460
  7. https://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_awst_09
  8. https://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_awst_09
  9. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58643562

Dolenni allanol