Elidir Sais: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2: Llinell 2:


==Llawysgrifau==
==Llawysgrifau==
Ceir y test cynharaf o un o'r cerddi yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] gyda chopi arall ynghyd â phump testun ychwanegol yn [[Llyfr Coch Hergest]]. Mae'r gweddill i'w cael mewn sawl [[llawysgrif]] arall; y bwysicaf ohonyn nhw yn llaw [[John Davies (Mallwyd)|John Davies o Fallwyd]] ([[17eg ganrif]]).
Ceir y testun cynharaf o un o'r cerddi yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] gyda chopi arall ynghyd â phump testun ychwanegol yn [[Llyfr Coch Hergest]]. Mae'r gweddill i'w cael mewn sawl [[llawysgrif]] arall, y bwysicaf ohonyn nhw yn llaw [[John Davies (Mallwyd)|John Davies o Fallwyd]] ([[17eg ganrif]]).


==Hanes==
==Hanes==

Fersiwn yn ôl 22:17, 12 Chwefror 2007

Bardd o Wynedd a flodeuai ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd Elidir Sais (fl. 1195 - 1246). Cyfyng iawn yw ein gwybodaeth amdano. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf ei fod yn perthyn i deulu barddol Meilyr Brydydd ac yn frodor o Fôn.

Llawysgrifau

Ceir y testun cynharaf o un o'r cerddi yn Llawysgrif Hendregadredd gyda chopi arall ynghyd â phump testun ychwanegol yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r gweddill i'w cael mewn sawl llawysgrif arall, y bwysicaf ohonyn nhw yn llaw John Davies o Fallwyd (17eg ganrif).

Hanes

Mae'n bur debyg fod Elidir yn fab i Walchmai ap Meilyr ac felly bod Meilyr Brydydd yn daid iddo. Os felly y bu, byddai'n frawd i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai ac Einion ap Gwalchmai. Cysylltir y teulu dysgedig hyn, yr enghraifft bwysicaf o deulu barddol yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion, â thiroedd etifeddol yn ardal Trefeilyr a lleoedd eraill yng nghwmwd Malltraeth (cantref Aberffraw) a chwmwd Menai (cantref Rhosyr).

Mae'r enghreifftiau cymharol brin o'r llysenw 'Sais' yn y cyfnod yn golygu rhywun a fedrai siarad rhywfaint o Saesneg neu wedi ymweld â Lloegr (does dim tystiolaeth fod Elidir wedi mynd i Loegr fel cennad i dywysog Gwynedd).

Cerddi

Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn awdlau i Dduw. Ceir tair marwnad ganddo, un i Hywel ab Arthen, un arall i Rhodri ab Owain Gwynedd, ewythr Llywelyn Fawr, ac un anghyffredin iawn i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur gyda'i gilydd. Canodd fawl i Dafydd ab Owain Gwynedd, ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir dadolwch (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun.

Llyfryddiaeth

  • J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Cyfres Beirdd y Tywysogion.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch