Bwdhaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rezabot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: mn:Бурханы шашин |
Rezabot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: or:ବୌଦ୍ଧ ଧର୍ମ |
||
Llinell 131: | Llinell 131: | ||
[[nov:Budisme]] |
[[nov:Budisme]] |
||
[[oc:Bodisme]] |
[[oc:Bodisme]] |
||
[[or: |
[[or:ବୌଦ୍ଧ ଧର୍ମ]] |
||
[[os:Буддизм]] |
[[os:Буддизм]] |
||
[[pap:Budismo]] |
[[pap:Budismo]] |
Fersiwn yn ôl 20:34, 21 Hydref 2011
Crefydd ddi-dduw yw Bwdhaeth neu Bwdïaeth. Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.
Erbyn heddiw, rhennir Bwdhaeth yn dri phrif draddodiad: Theravāda, Mahāyāna, a Vajrayāna. Mae'n parhau i atynnu dilynwyr ledled y byd, ac yn ôl [1], mae oddeutu 350 miliwn o Fwdhyddion (fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon a geir mewn sawl wlad yn ansicr). Ef yw'r pumed grefydd yn y byd yn ôl niferoedd, ar ôl Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, a chrefydd traddodiadol Tsieineaidd. Mae'r urdd mynaich Sangha ymysg y sefydliadau hynaf ar y ddaear.
Athrawiaethau
Y Pedwar Gwiredd Doeth
Dysgodd y Bwdha fod yna ddioddef mewn bywyd, a achosir gan chwenychu, ac y gellir ei darfod trwy ddilyn y Llwybr Wythblyg Doeth (gw. isod):
- Dioddef: Dioddef yw genedigaeth, dioddef yw heneiddio, dioddef yw afiechyd, dioddef yw marwolaeth; dioddef yw uno â'r hyn sy'n annymunol; dioddef yw gwahanu o'r hyn sy'n ddymunol; dioddef yw peidio â chael yr hyn a ddymunir; yn gryno, dioddef yw'r pump cyfansawdd sy'n wrthrych ymafael.
- Tarddiad dioddef: Y chwenychu sy'n arwain at ailenedigaeth.
- Darfod dioddef: Darfod chwenychu.
- Y ffordd sy'n arwain at ddarfod dioddef: Y Llwybr Wythblyg Doeth;
Nirfana
Nirfana yw diffodd pob chwenychiad, rhithdyb, ac anwybodaeth.
Y Llwybr Wythblyg Doeth
- Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth
- Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb
- Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud
- Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed.
- Bywoliaeth Gyfiawn - Gwneud swydd nad yw'n diweddu eich hun neu eraill mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
- Ymdrech Cyfiawn - Gwneud ymdrech i wella
- Gwybodus Rwydd Cyfiawn - Y gallu meddyliol i weld pethau fel y maent, gydag ymwybod clir.
- Myfyrio Cyfiawn