Hiyam Qablan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Hiyam Qablan"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:16, 26 Awst 2021

Hiyam Qablan
Ganwyd1956 Edit this on Wikidata
Isfiya Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
  • Prifysgol Haifa Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata

Bardd Palesteinaidd ac ysgrifennwr straeon byrion yw Hiyam Qablan (weithiau Hiam Kablan ) (ganwyd: 1956).

Magwraeth ac addysg

Ganwyd Qablan ym mhentref Isfiya, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn ysgol y pentref. Wedi hynny, aeth i Nasareth, lle mynychodd Ysgol y Chwiorydd Ffransisgaidd. Ym Mhrifysgol Haifa astudiodd hanes ac addysg. Mae hi'n byw yn Daliyat al-Karmel, lle mae hi wedi gweithio fel athrawes Arabeg.

Yr awdures

Cyfieithwyd peth o'i barddoniaeth i'r Hebraeg; cyfrannodd golofn rheolaidd, "Ala ajnihat al-rish" ("Ar Adennydd Pluen"), i al-Sinnara a chyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth a ffuglen fer, gan ddechrau gydag Amal 'ala al-durub (Neidio ar y Ffyrdd) ym 1975.[1] Mynycha wyliau barddoniaeth yn rheolaidd, gan gynnwys yr un a gynhelir yng Ngholeg Sde Boker.[2]

Cyfeiriadau

 

  1. Radwa Ashour; Ferial Ghazoul; Hasna Reda-Mekdashi (1 November 2008). Arab Women Writers: A Critical Reference Guide, 1873-1999. American University in Cairo Press. tt. 457–. ISBN 978-977-416-267-1.
  2. Lev-Ari, Shiri (26 November 2007). "Desert Devotees". Cyrchwyd 19 December 2017.