Elidir Sais: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Bardd o Wynedd a flodeuai ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd '''Elidir Sais''' (fl. 1195 - 1246). Cyfyng iawn yw ein gwybodaeth... |
B →Cerddi |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Cerddi== |
==Cerddi== |
||
Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn [[awdl]]au i [[Duw|Dduw]]. Ceir tair [[marwnad]] ganddo, un i [[Hywel ab Arthen]], un arall i [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], ewythr [[Llywelyn Fawr]], ac un anghyffredin iawn i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur. Canodd fawl i [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir [[dadolwch]] (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun. |
Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn [[awdl]]au i [[Duw|Dduw]]. Ceir tair [[marwnad]] ganddo, un i [[Hywel ab Arthen]], un arall i [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], ewythr [[Llywelyn Fawr]], ac un anghyffredin iawn i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur gyda'i gilydd. Canodd fawl i [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir [[dadolwch]] (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun. |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 16:49, 12 Chwefror 2007
Bardd o Wynedd a flodeuai ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd Elidir Sais (fl. 1195 - 1246). Cyfyng iawn yw ein gwybodaeth amdano. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf ei fod yn perthyn i deulu barddol Meilyr Brydydd ac yn frodor o Fôn.
Llawysgrifau
Ceir y test cynharaf o un o'r cerddi yn Llawysgrif Hendregadredd gyda chopi arall ynghyd â phump testun ychwanegol yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r gweddill i'w cael mewn sawl llawysgrif arall; y bwysicaf ohonyn nhw yn llaw John Davies o Fallwyd (17eg ganrif).
Hanes
Mae'n bur debyg fod Elidir yn fab i Walchmai ap Meilyr ac felly bod Meilyr Brydydd yn daid iddo. Os felly y bu, byddai'n frawd i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai ac Einion ap Gwalchmai. Cysylltir y teulu dysgedig hyn, yr enghraifft bwysicaf o deulu barddol yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion, â thiroedd etifeddol yn ardal Trefeilyr a lleoedd eraill yng nghwmwd Malltraeth (cantref Aberffraw) a chwmwd Menai (cantref Rhosyr).
Mae'r enghreifftiau cymharol brin o'r llysenw 'Sais' yn y cyfnod yn golygu rhywun a fedrai siarad rhywfaint o Saesneg neu wedi ymweld â Lloegr (does dim tystiolaeth fod Elidir wedi mynd i Loegr fel cennad i dywysog Gwynedd).
Cerddi
Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn awdlau i Dduw. Ceir tair marwnad ganddo, un i Hywel ab Arthen, un arall i Rhodri ab Owain Gwynedd, ewythr Llywelyn Fawr, ac un anghyffredin iawn i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur gyda'i gilydd. Canodd fawl i Dafydd ab Owain Gwynedd, ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir dadolwch (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun.
Llyfryddiaeth
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Cyfres Beirdd y Tywysogion.