Chrétien de Troyes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Кретьєн де Труа
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Кретьен де Труа
Llinell 43: Llinell 43:
[[it:Chrétien de Troyes]]
[[it:Chrétien de Troyes]]
[[ja:クレティアン・ド・トロワ]]
[[ja:クレティアン・ド・トロワ]]
[[kk:Кретьен де Труа]]
[[la:Christianus de Trecis]]
[[la:Christianus de Trecis]]
[[nl:Chrétien de Troyes]]
[[nl:Chrétien de Troyes]]

Fersiwn yn ôl 21:27, 20 Hydref 2011

'Gawain a'r offeiriad'. Lancelot Chrétien de Troyes (15fed ganrif).

Roedd Chrétien de Troyes (tua 1135 – tua 1183) yn llenor Ffrengig o'r Canol Oesoedd, a ystyrir fel y cyntaf o chwedleuwyr mawr Ffrainc.

Ychydig a wyddir am ei fywyd. Credir iddo gael ei eni yn Troyes o deulu dosbarth canol ac iddo gael addysg dda; gwyddir ei fod yn medru Hen Roeg. Mae'n debyg iddo fod yn llys Marie de Champagne a Philippe d'Alsace, comte de Flandres. I Philippe y cyflwynodd Perceval ou le Conte du Graal.

Mae'n debyg iddo gael ei ddeunydd o'r traddodiad celtaidd. Mae Érec et Énide, Yvain ou le Chevalier au Lion a Perceval ou le Conte du Graal yn cyfateb i'r tair stori yn Y Tair Rhamant yn Gymraeg: Geraint ac Enid, Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg. Nid oes sicrwydd a yw'r storïau Cymraeg yn addasiad o weithiau Chrétien ynteu yn weithiau annibynnol yn defnyddio yr un deunydd.

Gweithiau

Llyfryddiaeth

  • Anne Berthelot, Le roman courtois. Une introduction, Paris, Lettres 128, 1998.
  • Philippe Walter, Chrétien de Troyes, Paris, Que sais-je?, 1997.