Chalcolithig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
 
Llinell 1: Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth}}

{{Cyfnodau cynhanes}}
{{Cyfnodau cynhanes}}
Mae cyfnod y '''Chalcolithig''' ([[Groeg]]: ''khalkos'' + ''lithos'' 'carreg [[copr|gopr]]') neu '''Oes y Copr''' (a elwir hefyd yn '''Eneolithig''' ('''Aeneolithig''')), yn gam yn natblygiad diwylliant y [[dynolryw|ddynolryw]] a welodd ymddangosiad graddol yr [[offeryn|offer]] [[metel]] cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer [[carreg]]. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.
Mae cyfnod y '''Chalcolithig''' ([[Groeg]]: ''khalkos'' + ''lithos'' 'carreg [[copr|gopr]]') neu '''Oes y Copr''' (a elwir hefyd yn '''Eneolithig''' ('''Aeneolithig''')), yn gam yn natblygiad diwylliant y [[dynolryw|ddynolryw]] a welodd ymddangosiad graddol yr [[offeryn|offer]] [[metel]] cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer [[carreg]]. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:41, 18 Awst 2021

Chalcolithig
Enghraifft o'r canlynolcyfnod archaeolegol Edit this on Wikidata
Rhan oOes yr Efydd, Oes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd75 g CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben55 g CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Olynwyd ganOes yr Efydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLate Chalcolithic, Early Chalcolithic Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).

Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig (Oes y Cerrig) ac Oes yr Efydd, sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.

Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.

O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Tyrcmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Parpola, Asko: Study of the Indus Script, tud. 2, 3.