Cerfio pren ym Mhalesteina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Olive wood carving in Palestine"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:24, 4 Awst 2021

Dechreuodd y traddodiad o gerfio pren efo llaw yn y 4g OC, yng ngyfnod Yr Ymerodraeth Fysantaidd ym Methlem. Mae'r ddinas yn parhau i fod y brif fan sy'n cynhyrchu'r grefft.

Roedd mynachod Uniongred Gwlad Groeg yn dysgu trigolion lleol sut i gerfio pren olewydd.[1] Datblygodd y grefft a daeth yn ddiwydiant mawr ym Methlehem a threfi cyfagos fel Beit Sahour a Beit Jala yn yr 16g a'r 17g pan ddysgodd crefftwyr Eidalaidd a Ffransisgaidd ar bererindod i'r ardal y preswylwyr sut i gerfio. Ers hynny mae'r traddodiad wedi cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn enwedig gan ddisgynyddion y cerfwyr lleol gwreiddiol.

Heddiw, mae'r gelf yn parhau i fod yn brif ffynhonnell incwm i drigolion Cristnogol Palestinaidd Bethlehem a hi yw'r atyniad twristiaeth mwyaf (a'r mwyaf proffidiol) yn y ddinas gyda'r prif brynwyr yn bererinion Cristnogol yn ymweld yn ystod y Nadolig.[2] Mae pren olewydd yn cael ei gerfio'n groesau, blychau, fframiau lluniau, cloriau ar gyfer llyfrau hanesyddol a hen, canhwyllbrennau, rosaris, wrnau, fasau ac addurniadau Nadolig yn ogystal â golygfeydd o'r Teulu Sanctaidd.[2] Mae canghennau pren olewydd yn cael eu cyflenwi gan lwyni olewydd mewn pentrefi cyfagos yn ogystal ag o ranbarth Nablus a Tulkarm, er gwaethaf anhawster cludo yn y Lan Orllewinol.[2]

Y broses gynhyrchu

Mae'r broses o gynhyrchu gwrthrych o bren yr olewydd yn gofyn am dipyn go lew o amser a llafur ac mae'n cynnwys sawl cam, yn aml mae'n cynnwys gwaith mwy nag un crefftwr. Defnyddir peiriannau drilio i ddechrau i greu amlinelliad bras. Nesaf, trosglwyddir y darn i grefftwr medrus sy'n trawsnewid yr amlinelliad bras yn gynnyrch gorffenedig trwy gerfio'r manylion. Yn olaf, rhaid i'r eitem orffenedig gael ei llyfnu a'i sgleinio fel llygad dafad, yna'i gorchuddio â chwyr neu olew o'r olewydd i roi "sglein naturiol" i'r gwrthrych a sicrhau ei hirhoedledd.

Yn ddibynnol ar beth yw'r cynnyrch penodol, gallai'r broses gymryd hyd at 45 diwrnod. Mae'r mwyafrif o grefftwyr proffesiynol yn mynd trwy chwech i saith mlynedd o hyfforddiant.

Y Teulu Sanctaidd mewn coed olewydd. Beit Sahour, 2000.

Defnyddir pren yr olewydd oherwydd ei bod yn haws ei gerfio na choed eraill a gellir ei gerfio'n fanwl gydag offer llaw syml. Hefyd, mae ganddo amrywiaeth o liw naturiol a dyfnder arlliw, oherwydd yr haenau tywyll, blynyddol.[2][3]

Cyfeiriadau

 

  1. Bethlehem olive wood Crafts Gifts and Crafts.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 blessings gift shop and The Olive wood factory in Bethlehem
  3. Bethlehem Olive Wood Factory Bethlehem Workshop