Gorky's Zygotic Mynci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Dadsefydliadau
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎top: didoli a llaw pobl / grwpiau a rhoi Nodyn:Pethau ar y grwpiau, yn lle'r hen wybodlen using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Pethau}}
{{Gwybodlen Cerddorion
| enw = Gorky's Zygotic Mynci
| delwedd = [[Delwedd:Gorky's Zygotic Mynci.jpg|240px|Gorky's Zygotic Mynci]]
| pennawd =
| cefndir = group_or_band
| enwgenedigol =
| enwarall =
| geni =
| llegeni = {{Baner|Cymru}} [[Caerfyrddin]]
| math = Roc
| offeryn =
| blynyddoedd = 1991–2006
| label =
| cysylltiedig =
| dylanwadau =
| URL = [http://www.gorkys.com gorkys.com]
| aelodaupresenol = [[Euros Childs]] - [[Llais]], [[gitâr]] & [[allweddellau]]<br />[[Megan Childs]] - [[Ffidl]]<br />[[Rhodri Puw]] - [[Gitâr]]<br />[[Richard James]] - [[Gitâr Fâs]]<br />[[Pete Richardson]] - [[Drwm|Drymiau]]
| cynaelodau =
| prifofferynau =
}}


Band Seicadelig amlwg o [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]] oedd '''Gorky's Zygotic Mynci''' a'i ffurfiwyd yn [[1991]]. Roeddent yn ddylanwad sylweddol ar fandiau cyfoes e.e. [[Race Horses|Radio Luxembourg]], Eitha Tal Ffranco, The Coral. Mae cyn aelodau'r grŵp [[Euros Childs]], Richard James a John Lawrence i gyd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol. Daeth y band i ben ym mis Mai [[2006]].
Band Seicadelig amlwg o [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]] oedd '''Gorky's Zygotic Mynci''' a'i ffurfiwyd yn [[1991]]. Roeddent yn ddylanwad sylweddol ar fandiau cyfoes e.e. [[Race Horses|Radio Luxembourg]], Eitha Tal Ffranco, The Coral. Mae cyn aelodau'r grŵp [[Euros Childs]], Richard James a John Lawrence i gyd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol. Daeth y band i ben ym mis Mai [[2006]].

Fersiwn yn ôl 07:27, 28 Gorffennaf 2021

Gorky's Zygotic Mynci
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1991 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
Genreroc amgen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEuros Childs Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gorkys.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band Seicadelig amlwg o Gaerfyrddin oedd Gorky's Zygotic Mynci a'i ffurfiwyd yn 1991. Roeddent yn ddylanwad sylweddol ar fandiau cyfoes e.e. Radio Luxembourg, Eitha Tal Ffranco, The Coral. Mae cyn aelodau'r grŵp Euros Childs, Richard James a John Lawrence i gyd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol. Daeth y band i ben ym mis Mai 2006.

Gyrfa

Yn 1993 rhyddhawyd albwm cyntaf Gorky's Zygotic Mynci, Patio, ar label Ankst, gan gasglu ynghyd holl brif gynnyrch y grŵp o'r cyfnod 1991-1993 ar record 10 modfedd. Roedd hi'n amlwg pa mor dalentog a gwahanol oedd y criw yma o fechgyn ysgol o Freshwater East, ac mae dawn cyfansoddi a thalent offerynnol y grŵp yn agoriad llygaid. Mae Patio yn cynnwys traciau a recordiwyd gan y grŵp i sioe radio Nia Melville, un o gefnogwyr cynnar y grŵp, ac mae eu sŵn ac arddull unigryw yn ymddangos yn llawn ar ganeuon fel 'Diamonds o Monte Carlo'.

Dros gyfnod o dair mlynedd, dau albwm - Tatay (1994) a Bwyd Time (1995) - a chyfres o senglau hynod lwyddianus ar Ankst, efo Alan Holmes (Fflaps/Ectogram) a Gorwel Owen (Ofn) fel cynhyrchwyr, roedd Gorky's yn un o'r grwpiau mwyaf llwyddiannus ac ysbrydoledig o Gymru ers blynyddoedd.

Roedd senglau fel 'Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd' (1994), 'The Game of Eyes' (1995), a 'Miss Trudy' (1995), yn llwyddo i ennill gwobrau 'sengl yr wythnos' yn rheolaidd yng nghylchgronnau fel NME a Melody Maker, a gweddnewidiwyd y ddelwedd o gerddoriaeth Gymreig yn llwyr.

Richard James & Oz Wright - Gorky's Zygotic Mynci. Cyngerdd yn nhafarn Y Turff, Wrecsam; Rhagfyr 1995.

O hynny allan roedd Cymru yn cael ei gweld fel diwylliant deinamig ifanc, efo dawn arbennig i greu cerddoriaeth bop seicadelig, gwahanol. Roedd grwpiau fel y Gorky's yn chwarae ar lwyfannau mwyaf Prydain, ac yn arwain y don newydd o gerddoriaeth Gymraeg yng nghanol y 90au.

Yn ystod yr holl sylw hyn, rhyddhaodd y grŵp Bwyd Time, teithio Siapan, a phenderfynu arwyddo gyda chwmni recordiau byd-eang - Mercury - i ryddhau Barafundle yn 1997.

Ar y foment honno, roedd yn ymddangos fod y grŵp ar drothwy enwogrwydd a llwyddiant rhyngwladol.

Ond yn anffodus, roedd problemau gyda'r cwmni recordiau yn golygu bod y grŵp yn cael eu trin fel llai o flaenoriaeth, gan ddechrau disgyn oddi ar y radar.

Ar ddiwedd y 90au, newidiwyd labeli, collwyd eu gitarydd John Lawrence, a rhyddhawyd cyfres o albwmau llawer mwy 'mellow' a llai seicadelic na'u gwaith cynnar, cyn i'r grŵp ddod i ben yn 2003.

Mae catalog y Gorky's yn cael ei ystyried yn un o drysorau mwyaf gwerthfawr ein diwylliant roc, ac mae'r tri prif gyfansoddwr - Euros, John, a Richard James - i gyd wedi rhyddhau albwmau gwych fel artistiaid solo ers i'r grŵp chwalu.

Disgograffi

  • Patio, 1992/1995 (Ankst)
  • Tatay, 1994 (Ankst)
  • Bwyd Time, 1995 (Ankst) #150
  • Barafundle, 1997 (Fontana) #46
  • Gorky 5, 1998 (Mercury Records) #67
  • Spanish Dance Troupe, 1999 (Mantra) #88
  • The Blue Trees, 2000 (Mantra #126
  • How I Long to Feel That Summer in My Heart, 2001 (Mantra) #76
  • Sleep/Holiday, 2003 (Sanctuary) #132
  • 20: Singles & EP's, '94-'96, 2003

Dolenni Allanol