BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Godson18 (sgwrs | cyfraniadau)
#WPWP #WPWPARK
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[File:BBCBroadcastingHouse.JPG|thumb|BBC]]
{{gwybodlen
{{gwybodlen
|enw=Britsh Broadcasting Corporation
|enw=Britsh Broadcasting Corporation
Llinell 26: Llinell 25:
===1920-1950===
===1920-1950===
[[Delwedd:Bbc broadcasting house front.jpg|dde|bawd|200px|BBC Broadcasting House, [[Llundain]].]]
[[Delwedd:Bbc broadcasting house front.jpg|dde|bawd|200px|BBC Broadcasting House, [[Llundain]].]]
[[Delwedd:BBCBroadcastingHouse.JPG|bawd|BBC Broadcasting House o'r tu fewn.]]
Yn y 1920au gwelwyd creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth [[John Reith]] greu'r ethos, sef i hysbysu, addysgu ac adloni—model sy'n addas ar gyfer unrhyw [[darlledwr cyhoeddus|ddarlledwr cyhoeddus]]. Profwyd [[radio]] i fod yn boblogaidd iawn trwy'r wlad, efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y [[Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926|Streic gyffredinol]] yn 1926 wynebodd y BBC wrthdaro mawr efo'r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930au ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr ''Broadcasting House'', sef y canolfan darlledu cyntaf o'r fath ym Mhrydain, yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn arloesi efo'r dewis cynyddol o raglenni radio ac roedd yna hefyd arbrofion darlledu [[teledu]] dan arweiniad John Logie Baird, sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth [[Winston Churchill]] nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Tua diwedd y 1940au yr oedd y radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd, efo rhaglenni hir dymor megis ''Womans Hour'' a ''Book at Bedtime''.
Yn y 1920au gwelwyd creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth [[John Reith]] greu'r ethos, sef i hysbysu, addysgu ac adloni—model sy'n addas ar gyfer unrhyw [[darlledwr cyhoeddus|ddarlledwr cyhoeddus]]. Profwyd [[radio]] i fod yn boblogaidd iawn trwy'r wlad, efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y [[Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926|Streic gyffredinol]] yn 1926 wynebodd y BBC wrthdaro mawr efo'r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930au ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr ''Broadcasting House'', sef y canolfan darlledu cyntaf o'r fath ym Mhrydain, yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn arloesi efo'r dewis cynyddol o raglenni radio ac roedd yna hefyd arbrofion darlledu [[teledu]] dan arweiniad John Logie Baird, sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth [[Winston Churchill]] nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Tua diwedd y 1940au yr oedd y radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd, efo rhaglenni hir dymor megis ''Womans Hour'' a ''Book at Bedtime''.



Fersiwn yn ôl 18:35, 27 Gorffennaf 2021

Britsh Broadcasting Corporation
Diwydiant Darlledu
Sylfaenwyd 1 Ionawr 1927
Sylfaenydd John Reith
Gwlad Deyrnas Unedig
Pencadlys Llundain, Deyrnas Unedig
Gwefan http://www.bbc.co.uk

Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation (yn statudol Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn Gymraeg, ond defnyddir y byrfodd BBC: "bi bi ec" neu "bi bi si").

Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r Deyrnas Unedig ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd a nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.

Hanes y BBC

1920-1950

BBC Broadcasting House, Llundain.
BBC Broadcasting House o'r tu fewn.

Yn y 1920au gwelwyd creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth John Reith greu'r ethos, sef i hysbysu, addysgu ac adloni—model sy'n addas ar gyfer unrhyw ddarlledwr cyhoeddus. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy'r wlad, efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y Streic gyffredinol yn 1926 wynebodd y BBC wrthdaro mawr efo'r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930au ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr Broadcasting House, sef y canolfan darlledu cyntaf o'r fath ym Mhrydain, yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn arloesi efo'r dewis cynyddol o raglenni radio ac roedd yna hefyd arbrofion darlledu teledu dan arweiniad John Logie Baird, sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth Winston Churchill nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Tua diwedd y 1940au yr oedd y radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd, efo rhaglenni hir dymor megis Womans Hour a Book at Bedtime.

BBC yng Nghymru

Dechreuodd darlledu yng Nghymru ar 13 Mehefin 1923. Darlledwyd y Gymraeg am y tro cyntaf efo Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen [1] Roedd cadw cydbwysedd rhwng y ddwy iaith yn broblem yn y dyddiau hyn hyd yn oed. Digon llugoer oedd agwedd Llundain tuag at Gymru, a bu rhaid pwyso yn drwm am arian a chydnabyddiaeth. Yn wir roedd John Reith yn casáu Cymru. Er gwaethaf hyn sefydlwyd adran ar wahan i Gymru yn 1935. Yn 1937 cafwyd tonfedd arbennig.[2]

1950-1970

Y 1950au oedd degawd y teledu, efo cynnydd mawr mewn gwylwyr oherwydd coroni Elizabeth II yn 1953. Yn dilyn hyn, dechreuodd rhaglenni fel Blue Peter, Panorama, y sebon cyntaf erioed ac ar y radio dechreuodd Under Milk Wood a hefyd The Archers. Gwelodd y 1960au ehangiad mawr i'r sefydliad, wrth iddynt symud i mewn i’w cartref newydd, sef Televison Centre yn Llundain. Tyfodd y sîn pop ym Mhrydain efo lansiad Radio 1 yn 1967. Roedd 1969 yn flwyddyn a thrawsnewidiodd y diwydiant, efo darllediad Apollo 11 yn glanio ar y Lleuad mewn lliw.

1970-1990

Yn ystod y 1970au gwelodd y BBC mwy o esblygiad efo cyflwyniad rhaglenni comedi megis Morecambe and Wise, rhaglenni dogfennol David Attenborough a dramâu fel y BBC Shakespeare Project. Roedd partneriaethau efo'r Brifysgol Agored wedi torri tir newydd yn y ffordd a darlledwyd addysg. Roedd yna ffocws pwysig ar y BBC yn ystod yr 1980au wrth adrodd ar Ryfel y Falklands, a hefyd arddangos cyngerdd Live Aid. Gwyliodd dros 750 miliwn priodas Charles a Diana - y nifer fwyaf o wylwyr erioed ym Mhrydain, a lansiwyd y sebon EastEnders yn 1985. Roedd yna wrthdaro eto am annibyniaeth olygol y sefydliad o gwmpas yr amser roedd yna gyffro yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf ers i streic gyffredinol.

1990- presennol

Daeth y BBC mewn i’r oes ddigidol yn y 90’au, trwy ddatblygu nifer o ddulliau darlledu digidol, boed yn darlledu daearol neu dros y rhyngrwyd. Lansiwyd sianel newyddion pedair awr ar hugain, ac roedd y teletubies wedi trawsnewid rhaglenni plant ar raddfa fydol. Galwyd y 2000’au yn ddegawd digidol efo cynulleidfaoedd eisiau mwy o gynnwys unrhyw bryd ac unrhyw le, felly lansiwyd BBC iplayer yn Nadolig 2007. Mae’r wefan yn cael dros 3.6 biliwn edrychiad pob mis.

Lleoliadau

Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.

Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw gan cynnwys Abertawe.

BBC Cymru

Prif: BBC Cymru
Logo BBC Cymru Wales

Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru (BBC Wales).

Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.

Mae'r wefan BBC yn cynnwys newyddion, chwaraeon, tywydd, a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni BBC Cymru a Radio Cymru, ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys crefydd, y celfyddydau, hanes ac iaith. Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni Cymraeg ar BBC iplayer. Roedd yr is-wefan yn darparu meddalwedd o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad/au Saesneg os lleolir y cyrchwr dros y gair. Yn y 2010au mabwysiadwyd Vocab gan yr Uned Technolegau Iaith a dilewyd y gair BBC o'r botwm.[3][4] Mae'n defnyddio geiriaduron yr uned i'r perwyl.

Ffynonellau

  1. Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007, t. 178
  2. Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 t. 179
  3. yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 272/3
  4. Uned Techolegau Iaith, Bangor.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato