C.P.D. Tref y Bala: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makenzis (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
| llysenw = ''Lakesiders''
| llysenw = ''Lakesiders''
| sefydlwyd = 1880
| sefydlwyd = 1880
| maes = Maes Tegid
| maes = [[Maes Tegid]]
| cynhwysedd = 3,000
| cynhwysedd = 3,000
| cadeirydd = {{baner|Cymru}} Paul Higginson
| cadeirydd = {{baner|Cymru}} Paul Higginson

Fersiwn yn ôl 17:47, 16 Gorffennaf 2021

C.P.D. Y Bala
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Bala
Llysenw(au) Lakesiders
Sefydlwyd 1880
Maes Maes Tegid
Cadeirydd Baner Cymru Paul Higginson
Rheolwr Baner Lloegr Colin Caton
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2020/21 3.

Clwb pêl-droed o dref Y Bala, Gwynedd ydy Clwb Pêl-droed Tref Y Bala (Saesneg: Bala Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran bêl-droed yng Nghymru.

Mae lle i gredu fod clwb pêl-droed yn bodoli yn Y Bala ym 1880, ac er fod y llinach i'r clwb presennol yn aneglur, mae'r clwb yn cydnabod 1880 fel y blwyddyn y cafodd ei ffurfio[1].

Chwaraeir eu gemau cartref ar Faes Tegid, Y Bala, maes sydd yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 504 o seddi.

Pêl-droed Yn Y Bala

Roedd clwb pêl-droed yn bodoli yn nhref Y Bala yn ystod y 1870au a chwaraeodd clwb o'r dref yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877-78[2] ac unwaith eto ym 1879-80[3]. Yn rhyfedd ddigon, colli yn erbyn Corwen ddwywaith oedd hanes y clwb o'r Bala.

Er fod clybiau Bala North End, Bala South End a Bala Thursdays yn bodoli yn y dref ers 1880, nid oes unrhyw record o glwb o'r Bala mewn unrhyw gystadleuaeth hyd nes Cwpan Cymru 1913-14 pan chwaraeodd Bala Press yn y gystadleuaeth am yr unig dro[4]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, fel mewn sawl tref ar hyd a lled Cymru, cafwyd clwb o'r enw Bala Comrades yng Nghwpan Cymru ar gyfer tymor 1920-21[5] ond erbyn y flwyddyn canlynol roedd y clwb wedi hepgor y gair Comrades o'u henw ac wedi ymuno â Chynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru[1].

Chwaraeodd clwb Bala Royal British Legion yng Nghwpan Cymru ym 1926-27 a 1927-28[6][7].

Erbyn y 1950 roedd Y Bala wedi dechrau defnyddio'r enw Bala Town, wedi symud i chwarae eu gemau ar Faes Tegid ac wedi ymuno â Chynghrair Wrecsam a'r Cylch[8] ond bu rhaid disgwyl dros hanner canrif i sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Undebol yn 2003-04[9].

Yn 2008-09, llwyddodd Y Bala i gipio pencampwriaeth y Gynghrair Undebol a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[10].

Record yn Ewrop

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2013–14 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Estonia Levadia Tallinn 1-0 1-3 2–3
2015–16 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Lwcsembwrg Differdange 03 1-3 2-1 3-4
2016–17 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Sweden AIK 0-2 0-2 0-4
2017–18 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Liechtenstein Vaduz 1-2 0-3 1-5
2018–19 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner San Marino Tre Fiori 1–0 0−3 1–3
2020–21 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Malta Valletta N/A 0-1 N/A

Anrhydeddau

  • Cwpan Cymru
  • Cwpan Cynghrair Cymru
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2013-14, 2014-15
  • Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
    • Ennillwyr: 2012-13

Chwaraewyr nodedig

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Bala Town: General Information". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1879-80". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1913-14". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1920-21". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1926-27". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1927-28". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Welsh Data Archive:Wrexham Area 1950-51". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Welsh Football Data Archive: Wrexham Area 2003-04". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Welsh Football data Archive: Cymru Alliance 2008-09". Unknown parameter |published= ignored (help)
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd