Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 17: Llinell 17:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
{{Comin|Category:Jesus College Oxford MS 111 - Saith Doethion Rhufain|Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain}}


[[Categori:Chwedlau Cymraeg Canol]]
[[Categori:Chwedlau Cymraeg Canol]]

Fersiwn yn ôl 16:05, 16 Gorffennaf 2021

Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain
Ail dudalen y stori o fewn Llyfr Coch Hergest
Enghraifft o'r canlynolLlawysgrifen, fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
RhanbarthRhydychen Edit this on Wikidata

Llawysgrif Cymraeg o'r 14g yw Chwedleu Seith Doethon Rufein, sy'n addasiad o waith Ffrangeg o'r enw Les Sept Sages de Rome. Sgwennwyd y storiau gwreiddiol fel rhan o gylch o straeon Sansgrit, Persieg neu'r Hebraeg.[1] Mae'r stori'n sôn am losgach rhwng mab a'i fam. Cynhwysir y gwaith hwn oddi fewn i Lyfr Coch Hergest (Coleg yr Iesu, Rhydychen; MS 111).

Mae'r addasiad tua traean y Ffrangeg, ac mae'r awdur wedi ychwanegu un stori gyfan o'i ben a'i bastwn ei hun, er mwyn ei wneud yn addas i gynulleidfa ganoloesol, Gymraeg.

Plot

Mae'r Sultan yn anfon ei fab, y Tywysog ifanc, i gael ei addysg i ffwrdd o'r llys mewn ysgol lle mae Seven Wise Masters yn dysgu'r saith celfyddydau rhyddfrydol iddo.

Ar ôl dychwelyd i'r llys, mae ei lysfam, yr ymerodres, yn ceisio'i hudo a'i chwantu'n gorfforol. I osgoi perygl mae'n cael ei rwymo i wythnos o dawelwch gan Sindibad, arweinydd y Saith Meistr Doeth. Yn ystod yr amser hwn, mae'r ymerodres yn ei gyhuddo i'w gŵr, ac yn ceisio sicrhau ei farwolaeth trwy adrodd saith stori sy'n ymwneud â'r ymerawdwr. Fodd bynnag, mae ei naratif bob amser yn cael ei ddrysu gan y Saith Meistr Doeth dan arweiniad Sindibad. O'r diwedd mae gwefusau'r tywysog yn datgloi, y gwir yn wybyddus, a'r ymerodres ddrygionus yn cael ei dienyddio.

Y stori wreiddiol

Mae'r cylch straeon, sy'n ymddangos mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd, o darddiad Dwyreiniol, a cheir casgliad tebyg mewn Sansgrit, a briodolir i'r athronydd Indiaidd Syntipas yn y ganrif gyntaf CC, er nad yw'r gwreiddiol Indiaidd yn hysbys.[2] Ffynonellau posib eraill yw Persieg (gan fod y testunau cynharaf sydd wedi goroesi mewn Perseg) a Hebraeg (lle ceir diwylliant â chwedlau tebyg, fel y Joseff Beiblaidd).ref>W. A. Clouston, THE BOOK OF SINDIBĀD, 1884.</ref>

Darllen pellach

  • Gadsden, Carys. "Chwedleu Seith Doethon Rufein, the Middle Welsh Les Sept Sages De Rome: An Inadequate Rendering or a New Perspective on This Internationally Popular Tale?" Narrative Culture 7, no. 2 (2020): 198-215. doi:10.13110/narrcult.7.2.0198.

Cyfeiriadau

  1. Laura A. Hibbard, Medieval Romance in England. tud. 174. New York: Burt Franklin. 1963.
  2. "Syntipas - Encyclopedia Britannica 1911".
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: