Gwyach fawr gopog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tarih (sgwrs | cyfraniadau) +video #WPWP #WPWPTR |
|||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758) |
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758) |
||
}} |
}} |
||
[[File:Great crested grebe (Podiceps cristatus) in the wild.webm |thumb |Podiceps cristatus]] |
|||
[[File:Podiceps cristatus MHNT.ZOO.2010.11.38.1.jpg|thumb|''Podiceps cristatus'']] |
[[File:Podiceps cristatus MHNT.ZOO.2010.11.38.1.jpg|thumb|''Podiceps cristatus'']] |
||
Fersiwn yn ôl 13:47, 14 Gorffennaf 2021
Gwyach Fawr Gopog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Podicipediformes |
Teulu: | Podicipedidae |
Genws: | Podiceps |
Rhywogaeth: | P. cristatus |
Enw deuenwol | |
Podiceps cristatus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Wyach Fawr Gopog, Podiceps cristatus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws Ewrop ac Asia yn unrhyw le lle mae llynyoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.
Mae tua 46–51 cm o hyd, a 59–73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd bod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.
Erbyn diwedd y 19g roedd yr Wyach Fawr Gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym Mhrydain oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr RSPB cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng Nghymru gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i Afon Menai ar adegau.