Siôn Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
B cyf
 
Llinell 6: Llinell 6:
| nationality = {{banergwlad|Cymru}}
| nationality = {{banergwlad|Cymru}}
}}
}}
Llenor a noddwr beirdd o [[Sir Ddinbych]] yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. [[1546]] - [[Rhagfyr]] [[1606]]). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym [[Botryddan|Motryddan]], ger [[Rhuddlan]]. Ei dad oedd Siôn Conwy II, [[Aelod Seneddol]] [[Sir y Fflint]].
Llenor a noddwr beirdd o [[Sir Ddinbych]] yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. [[1546]] - [[Rhagfyr]] [[1606]]).<ref name="JarmanHughes1976">{{cite book|author1=Alfred Owen Hughes Jarman|author2=Gwilym Rees Hughes|title=A Guide to Welsh Literature: c.1530-1700|url=https://books.google.com/books?id=4JRiAAAAMAAJ|year=1976|publisher=C. Davies|isbn=978-0-7083-1400-5|page=257|language=en}}</ref> Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym [[Botryddan|Motryddan]], ger [[Rhuddlan]]. Ei dad oedd Siôn Conwy II, [[Aelod Seneddol]] [[Sir y Fflint]].


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:26, 8 Gorffennaf 2021

Siôn Conwy
Ganwyd1546 Edit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 1606 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606).[1] Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.[2]

Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).[2]

Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alfred Owen Hughes Jarman; Gwilym Rees Hughes (1976). A Guide to Welsh Literature: c.1530-1700 (yn Saesneg). C. Davies. t. 257. ISBN 978-0-7083-1400-5.
  2. 2.0 2.1 2.2 Enid Roberts, Gwaith Siôn Tudur, cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.