Helena Miguélez Carballeira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 51: Llinell 51:
[[Categori:Galisia]]
[[Categori:Galisia]]
[[Categori:Pobl o Galisia]]
[[Categori:Pobl o Galisia]]
[[Categori:Academyddion Cymreig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:08, 1 Gorffennaf 2021

Helena Miguélez Carballeira
GanwydHelena Miguélez Carballeira Edit this on Wikidata
1978 Edit this on Wikidata
Vigo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithegydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddgolygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amPostcolonial Spain: Coloniality, Violence and Independence Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae Helena Miguélez Carballeira (ganwyd 1978 yn Vigo) yn ieithydd, ysgolhaig ac awdur Galiseg. Mae hi'n gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd, Prifysgol Bangor.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Astudiodd Saesneg ac Ieitheg ym Mhrifysgol Vigo tan 2000.

Aeth i Brifysgol Gaeredin ble y cymerodd radd MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd. Roedd yn ddarlithydd gysylltiol yn Adran Astudiaethau Sbaenaidd, Prifysgol Aberdeen (2004) ac ers 2005 mae hi'n uwch-ddarlithydd Astudiaethau Sbaenaidd yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.

Hi yw cyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru. Penodwyd yn olygydd y cylchgrawn Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies ac wedi cyhoeddi papurau yn y cylchgronau The Translator, Bulletin of Hispanic Studies, Translation Studies, Grial, Bulletin of Hispanic Studies, The Translator.

Mae ei llyfr 2014 Galiza, um povo sentimental? (Galicia, gwlad sentimental?) wedi cael cryn sylw gan wasg a chyfryngau Galisia ac wedi cyrraedd ail-argraffiad ar ôl dim ond flwyddyn.

Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac wedi cyfrannu'n helaeth i faes astudiaethau cyfieithu. Ymhlith ei chyfieithiadau yw trosiad o gân Datblygu Cân i Gymru i'r iaith Galiseg a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Sermos Galiza[1]. Mae wedi ei hurddo'n wisg werdd gan Orsedd yr Eisteddfod[2].

Mae ei diddordeb ymchwil yn cynnws:

  • Dulliau ffeministaidd ac ôl-drefedigaethol ar hanes diwylliannol Iberia.
  • Cyfieithu mewn diwylliannau heb wladwriaeth
  • Etifeddiaeth ddiwylliannol Francoiaeth yn Sbaen
  • Ffyrdd o ddarllen Rosalía de Castro

Gwaith[golygu | golygu cod]

  • Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture, Politics (2013), Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Galiza, um povo sentimental?: Género, política e cultura no imaginário nacional galego, 2014. Cyfieithiad Galisieg o Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture and Politics, 2013.
  • A Companion to Galician Culture, 2014 (golygydd).
  • Gydag Angharad Price a Judith Kaufmann, Translation in Wales: History, Theory, Approaches, Rhifyn arbennig o Translation Studies

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • Gwobr AELG 2014, am Galiza, um povo sentimental?.

Cysylltiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sermos Galiza - Diario de intereses galegos". www.sermosgaliza.gal. Cyrchwyd 2019-05-11.
  2. "Gorsedd y Beirdd: Y gogledd" (yn Saesneg). 2019-05-09. Cyrchwyd 2019-05-11.