Trên: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ku:Tren
B r2.6.3) (robot yn ychwanegu: sn:Chitima yn newid: ku:Trên
Llinell 73: Llinell 73:
[[kk:Пойыз]]
[[kk:Пойыз]]
[[ko:열차]]
[[ko:열차]]
[[ku:Tren]]
[[ku:Trên]]
[[la:Hamaxostichus]]
[[la:Hamaxostichus]]
[[lad:Tréno]]
[[lad:Tréno]]
Llinell 108: Llinell 108:
[[sk:Vlak]]
[[sk:Vlak]]
[[sl:Vlak]]
[[sl:Vlak]]
[[sn:Chitima]]
[[so:Tareen]]
[[so:Tareen]]
[[sr:Воз]]
[[sr:Воз]]

Fersiwn yn ôl 10:27, 18 Hydref 2011

Trên Shinkansen yn Japan.

Cerbyd neu res o gerbydau sy'n teithio ar reilffordd yw trên. Fe'i defnyddir i gludo teithwyr neu nwyddau o un man i fan arall. Yn dechnegol mae'r term yn cyfeirio at res o gerbydau, ond fe'i defnyddir yn anffurfiol i ddisgrifio cerbydau unigol, yn arbennig locomotifau. Hen derm hanesyddol am drên oedd cerbydres.

Mathau o drenau

Ceir mathau gwahanol o drên ar gyfer gwahanol reilffyrdd a phwrpasau. Gall trên gynnwys injan locomotif yn tynnu cerbydau di-bŵer, neu nifer o gerbydau aml-uned yn symud o dan eu pŵer eu hunain. Defnyddir trenau aml-uned fel rheol ar gyfer cludo teithwyr, tra gall locomotif dynnu cerbydau nwyddau, cerbydau teithwyr, neu gymysgedd.

Mae sawl dull o symud trên. Ar y rheilffyrdd cynharaf gwthiwyd neu tynnwyd cerbydau gan ddynion neu dda byw (megis ceffylau), ond wedi dechrau'r Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd injans stêm yn gyffredin. Heddiw fe ddefnyddir injans disel neu drydan ran amlaf.

Effeithlonrwydd

Mae trenau yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - car, awyren neu long. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif reswm dros hyn yw bod llai o ffrithiant rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd. Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r gwrthiant aer. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên ôl troed ecolegol llai, ac yn cyfrannu llai at newid hinsawdd, o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Er hynny, fe all brisiau uchel arwain at siwrneiau lle mae trên yn eithaf wag, gan leihau'r effeithlonrwydd.

Delweddau

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol