Ceffyl Pren Caerdroea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion gyda llaw (drwy AWB) using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 7: Llinell 7:


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
==cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Mytholeg Roeg]]
[[Categori:Mytholeg Roeg]]

Fersiwn yn ôl 05:03, 27 Mehefin 2021

Atgynhyrchiad o Geffyl Pren Caerdroea, Twrci

Stori o Ryfel Caerdroea am ystryw wnaeth y Groegiaid er mwyn mynd i mewn i ddinas Caerdroea a'i chipio yw'r Ceffyl Pren Caerdroea. Yn y fersiwn canonaidd, penderfynodd y Groegiaid, ar ol deng mlynedd o warchae ar y ddinas, adeiladu ceffyl anferthol o bren a chuddio milwyr ynddo, gyda'r rhyfelwr Odysews yn eu plith. Esgusodd y Groegiaid hwylio i ffwrdd, a thynnodd y Troeaid y ceffyl i mewn i'w dinas i'w gadw fel troffi. Y noson honno, sleifiodd llu y Groegiaid allan o'r ceffyl ac agor y gatiau i weddill byddin Groeg, a oedd wedi hwylio yn ôl yn nhywyllwch y nos. Cipiodd y Groegiaid y ddinas, a rhoi terfyn ar y rhyfel.

Mae'r trosiad o "Geffyl Troeaidd", yn arbennig yn y Saesneg, wedi dod i olygu tric neu ystryw sy'n gosod targed i wahodd gelyn i mewn i le diogel. Mae'n cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at raglen gyfrifiadurol faleisus sy'n twyllo defnyddwyr i'w rhedeg.

Prif ffynhonnell y stori yw'r Aenid gan Fyrsil, cerdd epig yn Lladin o gyfnod Augustus. Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei gyfeirio ato yn yr Odysseia gan Homer.[1] Yn y traddodiad Groegaidd, mae'r ceffyl yn cael ei alw'n "geffyl pren" (δουράτεος ἵππος dourateos hippos mewn Homerig/Groeg Ionig (Odyseia 8.512); δούρειος ἵππος, doureios hippos mewn Groeg Attig).

Cyfeiriadau

  1. Broeniman, Clifford (1996). "Demodocus, Odysseus, and the Trojan War in "Odyssey" 8". The Classical World 90 (1): 3–13. JSTOR 4351895.