Canthrig Bwt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: Gwybodlen Wicidata using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
 
Llinell 12: Llinell 12:
*[[John Jones (Myrddin Fardd)]], ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon''
*[[John Jones (Myrddin Fardd)]], ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon''
*[[T. Gwynn Jones]], ''Welsh Folklore and Folk-custom'' (1930; 1970)
*[[T. Gwynn Jones]], ''Welsh Folklore and Folk-custom'' (1930; 1970)
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Cewri]]
[[Categori:Cewri]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 05:01, 27 Mehefin 2021

Canthrig Bwt
GanwydNantperis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrach Edit this on Wikidata

Gwrach neu gawres ddychmygol oedd Canthrig Bwt. Dywedir ei bod yn byw yn Nantperis, Eryri, a'i bod yn bwyta plant.

Roedd Canthrig yn byw dan garreg anferth a elwir y Gromlech, sydd dal i'w gweld heddiw ar bwys y lôn ym mhen uchaf Nant Peris ar y ffordd i fyny o dref Llanberis i Ben-y-pass; enwir Dinas y Gromlech ar ei hôl. Yn ôl y chwedl werin leol, roedd hi'n adnabyddus i'r trigolion fel hen wraig unig, sarrug, yr oedd ar y plant ei hofn hi.

Un diwrnod aeth rhai o blant y gymdogaeth ar goll. Chwilwyd amdanyn nhw ond roedden nhw wedi diflannu. Yn nes ymlaen aeth dyn lleol yn mynd i hela â'i gi. Cafodd y ci hyd i esgyrn plentyn a dechrau eu cnoi. Gwelwyd y wrach yn cilio i'w chartref dan y Gromlech. Aeth y dyn ar ei hôl hi yn llechwraidd ac ar ôl cyrraedd y garreg gwaeddodd fod ganddo blant i Ganthrig. Pan ddaeth hi allan, torrodd ei phen â'i fwyall a dyna ddiwedd Canthrig Bwt.[1]

Ceir chwedlau cyffelyb am wrachod yn bwyta plant yn llên gwerin sawl gwlad, e.e. y wrach yn y chwedl adnabyddus am Hansel a Gretel gan y Brodyr Grimm a'r chwedlau am y trols yn Llychlyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Snowdon Mountain Railway is the most thrilling train ride in Europe". Matador Network (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-10-28.