Edward Jones (meddyg Dolgellau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 25: Llinell 25:
== Marwolaeth ==
== Marwolaeth ==


Ar ddechrau mis Chwefror 1900 cafodd Dr Jones pwl o'r [[Y ffliw|ffliw]] a drodd yn [[niwmonia]] ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn ei gartref, Caerffynnon, Dolgellau yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion yn y fynwent gyhoeddus newydd y dref; mynwent y bu ef yn gyfrifol am ei sefydlu.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4503661|title=Gladdedigaeth Dr Edward Jones Dolgellau - Y Goleuad|date=1900-02-14|accessdate=2020-10-15|publisher=John Davies}}</ref>
Ar ddechrau mis Chwefror 1900 cafodd Dr Jones pwl o'r [[Y ffliw|ffliw]] a drodd yn [[niwmonia]] ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn ei gartref, Caerffynnon, Dolgellau yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus newydd y dref; mynwent y bu ef yn gyfrifol am ei sefydlu.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4503661|title=Gladdedigaeth Dr Edward Jones Dolgellau - Y Goleuad|date=1900-02-14|accessdate=2020-10-15|publisher=John Davies}}</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 02:58, 16 Mehefin 2021

Edward Jones
Dr Jones Tua 1889
Ganwyd21 Ionawr 1834 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1900 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, cynghorydd Edit this on Wikidata

Roedd Dr Edward Jones (21 Ionawr 18345 Chwefror 1900) yn Feddyg Teulu yn Nolgellau a wasanaethodd fel Cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd.[1]

Cefndir

Ganwyd Dr Jones yn Nolgellau yn blentyn i Hugh Jones, peintiwr a gwydrwr tai, ac Ann (née Ellis) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair Dolgellau ar 16 Chwefror 1834.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Dolgellau a Phrifysgol Glasgow.

Gyrfa

Wedi ymadael a'r ysgol dechreuodd Jones weithio gyda'i dad yn y busnes cynnal tai. Roedd y gwaith yn effeithio ar ei iechyd a barnai fferyllydd Dolgellau, Oliver Rees, oedd yn darparu moddion iddo ar gyfer ei iechyd na fyddai'n byw yn hir pe na chai swydd wahanol. Aeth yn brentis cynorthwyydd meddygol i Dr Lloyd, Plasbrith Dolgellau. Wedi darfod ei bedair blynedd o brentisiaeth yn llwyddiannus cafodd nawdd i barhau ei addysg feddygol ym Mhrifysgol Glasgow. Cymhwysodd fel meddyg a derbyniodd Gradd MD o Brifysgol St Andreas. Dychwelodd i Ddolgellau i sefydlu practis meddygol ar gyfer ardal eang oedd yn gwasanaethu pobman rhwng Trawsfynydd a Chorris.

Yn ogystal â gweithio fel meddyg teulu cyffredinol gwasanaethodd Dr Jones fel brechwr cyhoeddus cylch Dolgellau o dan Ddeddf Brechu 1868 [3] ac fel meddyg Wyrcws a thlodion Dolgellau o dan y deddfau tlodi.

Galwyd arno yn aml i archwilio cyrff y meirw ar gyfer y crwner ac i roi ei farn am achos eu marwolaethau mewn trengholiadau. Bu hefyd yn rhoi tystiolaeth feddygol i'r llysoedd mewn achosion troseddol. Roedd yn un o'r meddygon a fu'n cynorthwyo wedi damwain trên angheuol ar 1 Ionawr 1883 ger y Friog.[4]

Gwasanaeth cyhoeddus

Ers yn ifanc, cyn iddo fynd i'r Brifysgol yng Nglasgow roedd Jones yn Rhyddfrydwr brwd.[5] Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Ryddfrydol Meirion gan wasanaethu, bron yn ddi-dor o'i sefydlu hyd ei farw ef fel ei lywydd. Bu'n weithgar wrth sicrhau cipio Meirion o ddwylo'r Ceidwadwyr gan David Williams, Castell Deudraeth ym 1868 [6] a'i chadw yn sedd Ryddfrydol wedi hynny. Roedd yn gweithredu fel cyfieithydd dros yr ASau di Gymraeg Samuel Holland a Henry Robertson ac yn aml yn cael mwy o hwyl wrth draddodi cyfieithiadau o'u areithiau nag oeddynt hwy yn cael yn eu traddodi yn y gwreiddiol. Bu bygwth rhwyg yn yr achos Rhyddfrydol yn y sir ym 1885 pan benderfynodd rhai aelodau i godi Morgan Lloyd, Cymro Cymraeg o gefndir gwerinol, i herio'r diwydiannwr cefnog di-gymraeg o Sgotyn Henry Robertson. Roedd Edward Jones yn gyfrwng pwysig wrth geisio gwella'r rhwyg. Gwasanaethodd fel un o Gynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor Gweithredol y Ffederasiwn Rhyddfrydol Prydeinig. Pan fu farw Tom Ellis a phan roddodd Syr O. M. Edwards [7] hysbysu nad oedd am ail sefyll ar gyfer Tŷ'r Cyffredin bu bwysau lawer ar Jones i sefyll yn eu lle ond fe wrthododd y cynigion.[8]

Fe'i hetholwyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd,[9] a hyd at ei farwolaeth gwasanaethodd fel cadeirydd Cydbwyllgor yr Heddlu.[10] Roedd yn aelod o'r Cydbwyllgor Addysg, a luniodd y cynllun addysg ganolraddol ar gyfer y sir ar ôl pasio Deddf Addysg Cymru, 1889. O'r cyntaf roedd wedi bod yn gadeirydd Corff Llywodraethwyr Sir Feirionnydd, ac wedi gweithio'n ddiflino dros achos addysg uwchradd yn y sir. Roedd wedi bod yn un o'r prif symudwyr wrth sefydlu Ysgol Dr Williams i ferched yn Nolgellau, ac o'r cychwyn roedd wedi cymryd y brif gyfran yn ei rheolaeth. Bu hefyd yn flaenllaw wrth sicrhau adeiladau Ysgol Sirol y bechgyn Dolgellau i gymryd lle'r hen Ysgol Ramadeg bychan ac adfail.[11] Mae rhan o'r campws bu'n rhan o'i sefydlu yn dal i gael ei ddefnyddio gan adran uwchradd Ysgol Bro Idris.

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Sir Feirionnydd. Roedd yn aelod blaenllaw o'r Methodistiaid Calfinaidd a gwasanaethodd fel blaenor yng Nghapel Salem Dolgellau am dros chwarter Canrif.

Teulu

Ym 1859 priododd Jones ag Ann Jones, merch John Jones, gwneuthurwr menig, Dolgellau. Fu iddynt saith o blant, chwe mab ac un ferch. Olynodd dau o'r meibion, Dr John Jones a Dr Hugh Jones eu tad fel meddygon teulu yn Nolgellau.[12]

Marwolaeth

Ar ddechrau mis Chwefror 1900 cafodd Dr Jones pwl o'r ffliw a drodd yn niwmonia ac a arweiniodd at ei farwolaeth yn ei gartref, Caerffynnon, Dolgellau yn 66 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus newydd y dref; mynwent y bu ef yn gyfrifol am ei sefydlu.[13]

Cyfeiriadau

  1. Griffiths, R., (2012). JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Hyd 2020
  2. Gwasanaethau Archifau Cymru Cofrestri Plwyf Dolgellau; Bedyddiadau 1834, tud 152, rhif 1211
  3. "DOLGELLEY - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1868-03-28. Cyrchwyd 2020-10-15.
  4. "Y Ddamwain ar Reilffordd y Cambrian - Y Dydd". William Hughes. 1883-01-12. Cyrchwyd 2020-10-15.
  5. "Dr Edward Jones - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1889-04-03. Cyrchwyd 2020-10-15.
  6. "DOLGELLAU - Y Dydd". William Hughes. 1868-11-13. Cyrchwyd 2020-10-15.
  7. "OLYNYDD MR O M EDWARDS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1900-01-25. Cyrchwyd 2020-10-15.
  8. "MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y Dr EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1900-02-13. Cyrchwyd 2020-10-15.
  9. "DR EDWARD JONES DOLGELLAU - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1900-02-08. Cyrchwyd 2020-10-15.
  10. "PWYLLGOR HEDDLU MEIRION - Y Dydd". William Hughes. 1900-01-12. Cyrchwyd 2020-10-15.
  11. "DEATH OF MR EDWARD JONES DOLGELLEY - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1900-02-09. Cyrchwyd 2020-10-15.
  12. "Marwotaeth Dr EDWARD JONES UH Dolgellau - Y Goleuad". John Davies. 1900-02-07. Cyrchwyd 2020-10-15.
  13. "Gladdedigaeth Dr Edward Jones Dolgellau - Y Goleuad". John Davies. 1900-02-14. Cyrchwyd 2020-10-15.