An tArdriasc, Swydd Armagh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' {{Lle|gwlad={{banergwlad|Gogledd Iwerddon}}|image=Ardress West Fields - geograph.org.uk - 568832.jpg|caption=Maesydd Gorllewin An tArdriasc}} Mae '''An...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 01:49, 15 Mehefin 2021

An tArdriasc
Maesydd Gorllewin An tArdriasc
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.445698°N 6.592575°W Edit this on Wikidata
Map

Mae An tArdriasc (Saesneg Ardress)[1] yn bentrefan a threfgordd yn Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon. Saif y pentrefan rhwng Loch gCál (Loughgall) ac Eanach Mór (Annaghmore). Mae'n gynnwys Dwyrain An tArdriasc a Gorllewin An tArdriasc. Mae o fewn plwyf sifil Loch gCál a barwniaeth Uí Nialláin Thiar (Oneilland West).[2] Roedd ganddo boblogaeth o 90 o bobl (39 cartref) yng Nghyfrifiad 2011. [3]

Mae'r ardal yn fwyaf adnabyddus fel safle Tŷ Ardress. Ffermdy cymedrol oedd hwn yn wreiddiol a drawsnewidiwyd yn blasty ym 1760 gan y Pensaer o Ddulyn George Ensor. Mae'n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o ddodrefn o'r 18fed ganrif ac arddangosfa dda o ddarluniadau. Ymhlith ei nodweddion niferus mae'r gwaith plastr yn y parlwr gan Michael Stapleton, disgybl Robert Adam (g.1728-1792), sy'n dyddio'n ôl i 1780. Mae'r buarth a'r adeiladau allanol yn dangos agweddau ar hanes ffermio gydag arddangosfa o offer fferm. Mae yna ardd ddymunol gydag enghreifftiau o fathau cynnar o rosyn Gwyddelig. Taith gerdded o amgylch yr ystâd yw 'Milltir y Boneddigesau'. [4]

Cyfeiriadau

  1. "An tArdriasc/Ardress". Logainm.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2021-06-15.
  2. "Uí Nialláin Thiar/Oneilland West". Logainm.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2021-06-15.
  3. "Ardress". Census 2011 Results. NI Statistics and Research Agency. Cyrchwyd 15 Mehefin 2021.
  4. National Trust website on Ardress House