C'mon Midffîld!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
 
Llinell 5: Llinell 5:
Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd ''C'mon Midffîld!'' duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel ''[[Only Fools and Horses]]'' gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: ''C'mon Midffîld a Rasbrijam''. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir ''C'mon Midffîld!'' yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.
Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd ''C'mon Midffîld!'' duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel ''[[Only Fools and Horses]]'' gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: ''C'mon Midffîld a Rasbrijam''. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir ''C'mon Midffîld!'' yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.


Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed [[Pontrhydfendigaid]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6740000/newsid_6740600/6740655.stm 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60'] [[BBC]] [[11 Mehefin]] [[2007]]</ref><ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/arymarc/clybiau/bont.shtml 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont'] [[BBC]] [[22 Gorffennaf]] [[2007]]</ref> Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.
Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed [[Pontrhydfendigaid]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6740000/newsid_6740600/6740655.stm 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60'] [[BBC]] [[11 Mehefin]] [[2007]]</ref><ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/arymarc/clybiau/bont.shtml 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont']{{Dolen marw|date=June 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} [[BBC]] [[22 Gorffennaf]] [[2007]]</ref> Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.


Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' [[BAFTA Cymru]] i Mei Jones ac Alun Ffred yn [[1992]]. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.<ref>[http://www.nant.co.uk/gwobrau/cy/ Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>
Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' [[BAFTA Cymru]] i Mei Jones ac Alun Ffred yn [[1992]]. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.<ref>[http://www.nant.co.uk/gwobrau/cy/ Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }}</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 01:15, 8 Mehefin 2021

C'mon Midffîld!
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Tachwedd 1988 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1994 Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrAlun Ffred Jones Edit this on Wikidata

Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld! Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.

Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffîld! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3] Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Penodau[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD gan Sain rhwng 2005 [1] a 2007.

Cyfres 1[golygu | golygu cod]

  • Y Maes Chwarae (DVD1)
  • Seren Ddisglair (DVD1)
  • Lladron y Nos (DVD1)
  • Traed Moch (DVD1)
  • Y Trip (DVD2)
  • Nadolig Bryncoch (DVD 2) new Nadolig Llawen? (video 2) - yr un pennawd?

Cyfres 2[golygu | golygu cod]

  • Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
  • Craig o Arian (DVD2)
  • Bryn o Briten (DVD3)
  • Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
  • Gweld Sêr (DVD3)
  • Rhyfal Cartra (DVD3)
  • Match o' Ddy De (DVD4)

Cyfres 3[golygu | golygu cod]

  • Yr Italian Job (DVD4)
  • Il Lavoro In Italia (DVD4)
  • Yn Nhŷ Fy Nhad (DVD5)
  • Tibetans v Mowthwalians (DVD5)

Cyfres 4[golygu | golygu cod]

  • O Mam Bach (DVD5)
  • Meibion Bryncoch (DVD7)
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd (DVD7)
  • Fe Gei Di Fynd I'r Bôl (DVD7)
  • 'Eira Mân, Eira Mawr' (DVD8)
  • Yr Etholedig Rai (DVD8)
  • Cymorth Hawdd Ei Gael (DVD8)
  • Yr Alffa A'r Omega (DVD9)

Cyfres 5[golygu | golygu cod]

  • Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
  • Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
  • Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
  • Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
  • Y Cocyn Hitio (DVD10)
  • Dechrau'r Diwedd (DVD10)

Rhaglenni/Ffilmiau Unigol[golygu | golygu cod]

  • Midffîld - Y Mwfi (DVD6)
  • C'mon Midffîld a Rasbrijam (DVD11)
  • Doli Bryncoch

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]