Ceres (duwies): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) |
|||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
== Ffynhonnell == |
== Ffynhonnell == |
||
{{Comin|Ceres}} |
{{Comin|Ceres}} |
||
* Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny). |
* [[Delwedd:Saccaggi Ave Natura.jpg|alt=Ave natura, 1910, sy'n cynrychioli gorymdaith Rufeinig i Ceres, duwies gwenith. Gwaith arddull cyn-Raffaelaidd gan Cesare Saccaggi da Tortona.|bawd|258x258px|''Ave natura'', 1910, sy'n cynrychioli gorymdaith Rufeinig i Ceres, duwies gwenith. Gwaith arddull cyn-Raffaelaidd gan Cesare Saccaggi da Tortona.]]Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny). |
||
[[Categori:Duwiesau]] |
[[Categori:Duwiesau]] |
Fersiwn yn ôl 16:19, 30 Mai 2021
Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd Ceres, y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd Demeter. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol yr Eidal yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, Persephone (Lladin: Proserpina) a Dionysus (Lladin: Bacchus) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y Sibyl.
Fel cwlt swyddogol roedd addoliad Ceres yn dilyn y patrwm Groeg yn llwyr. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer dathlu gemau'r Cerealia ar ddechrau mis Ebrill. Roedd yna ddathliad arall ym mis Awst: byddai'r merched yn ymprydio am naw diwrnod ac wedyn yn cyflwyno offrymau blaenffrwyth y tymor i Ceres, gan wisgo coronau o ŷd.
Pobl gyffredin oedd ei haddolwyr, yn bennaf, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yno y ceir y dystiolaeth gryfaf am y dduwies Eidalaidd hynafol ei hun. Arferai'r werin bobl offrymu hwch (porca praecadanaea) i Ceres cyn gychwyn ar y gwaith o gael y cynhaeaf i mewn ac yn cyflwyno'r blaenffrwyth ŷd i deml y dduwies.
Ffynhonnell
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).