Alex Sanders (Wiciad): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
|children=Paul a Janice (gyda Doreen); Maya Alexandria a Victor Mikhael (gyda Maxine)}}
|children=Paul a Janice (gyda Doreen); Maya Alexandria a Victor Mikhael (gyda Maxine)}}


[[Yr ocwlt|Ocwltydd]] [[Saeson|Seisnig]] ac Archoffeiriad yn y grefydd [[Neo-baganiaeth|Neo-baganaidd]], [[Wica]], oedd '''Alex Sanders''' ([[6 Mehefin]] [[1926]] – [[30 Ebrill]] [[1988]]). Ganed Sanders yn '''Orrell Alexander Bibby''', hefyd a gelwir gan ei [[enw crefft]] yn '''Verbius'''. Sefydlodd Sanders draddodiad Wicaidd o'r enw [[Wica Alecsandraidd]] yn y 1960au, a seiliwyd yn helaeth ar [[Wica Gardneraidd]].
[[Yr ocwlt|Ocwltydd]] [[Saeson|Seisnig]] ac Archoffeiriad mewn crefydd [[Neo-baganiaeth|Neo-baganaidd]] o'r enw [[Wica]] oedd '''Alex Sanders''' ([[6 Mehefin]] [[1926]] – [[30 Ebrill]] [[1988]]). Ganed Sanders yn '''Orrell Alexander Bibby'''. Ei [[enw crefft]] oedd '''Verbius'''. Creodd Sanders draddodiad Wicaidd o'r enw [[Wica Alecsandraidd]] yn y 60au, a seiliwyd yn fawr ar [[Wica Gardneraidd]].


O dras [[dosbarth gweithiol]], dechreuodd Sanders, yn ddyn ifanc, weithio fel [[Mediwmaeth|mediwm]] mewn [[Eglwys ysbrydol|Eglwysi Ysbrydol]]. Ar ôl hynny, astudiodd ac ymarferodd Sanders [[dewiniaeth seremonïol|ddewiniaeth seremonïol]]. Ym 1963, cafodd ef ei ynydu i mewn i [[Wica Gardneraidd]] ac aeth ef ymlaen i sefydlu ei gwfen ei hun. Wrth sefydlu'r cwfen cyntaf hwn, cyflwynodd ef dechnegau dewiniaeth seremonïol. Honnodd ef iddo gael ei ynydu gan ei fam-gu Gymraeg, Mary Bibby (née Roberts),<ref name=":0" /> yn blentyn, ond mae ymchwil ddiweddar wedi gwrthbrofi'r honiad hwn, gan y bu farw ei fam-gu ym 1907, rhyw 19 mlynedd cyn i Sanders gael ei eni.<ref name=":0">Wibberley, C. (2018).</ref>
O dras [[dosbarth gweithiol]], dechreuodd Sanders, yn ddyn ifanc, weithio fel [[Mediwmaeth|mediwm]] mewn [[Eglwys ysbrydol|Eglwysi Ysbrydol]]. Ar ôl hynny, astudiodd ac ymarferodd Sanders [[dewiniaeth seremonïol|ddewiniaeth seremonïol]]. Ym 1963, cafodd ef ei ynydu i mewn i [[Wica Gardneraidd]] ac aeth ef ymlaen i sefydlu ei gwfen ei hun. Wrth sefydlu'r cwfen cyntaf hwn, cyflwynodd ef dechnegau dewiniaeth seremonïol. Honnodd ef iddo gael ei ynydu gan ei fam-gu Gymraeg, Mary Bibby (née Roberts),<ref name=":0" /> yn blentyn, ond mae ymchwil ddiweddar wedi gwrthbrofi'r honiad hwn, gan y bu farw ei fam-gu ym 1907, rhyw 19 mlynedd cyn i Sanders gael ei eni.<ref name=":0">Wibberley, C. (2018).</ref>

Fersiwn yn ôl 20:55, 18 Ebrill 2021

Orrel Alexander Sanders
Alex Sanders, dan wisgo gynau defodol
GanwydOrrell Alexander Carter
(1926-06-06)6 Mehefin 1926
Birkenhead, Lloegr
Bu farwMehefin 1988, 62 oed
Sussex, Lloegr
GwaithArchoffeiriad Wicaidd
PlantPaul a Janice (gyda Doreen); Maya Alexandria a Victor Mikhael (gyda Maxine)
RhieniHannah Jane Bibby; Orrell Alexander Carter

Ocwltydd Seisnig ac Archoffeiriad mewn crefydd Neo-baganaidd o'r enw Wica oedd Alex Sanders (6 Mehefin 192630 Ebrill 1988). Ganed Sanders yn Orrell Alexander Bibby. Ei enw crefft oedd Verbius. Creodd Sanders draddodiad Wicaidd o'r enw Wica Alecsandraidd yn y 60au, a seiliwyd yn fawr ar Wica Gardneraidd.

O dras dosbarth gweithiol, dechreuodd Sanders, yn ddyn ifanc, weithio fel mediwm mewn Eglwysi Ysbrydol. Ar ôl hynny, astudiodd ac ymarferodd Sanders ddewiniaeth seremonïol. Ym 1963, cafodd ef ei ynydu i mewn i Wica Gardneraidd ac aeth ef ymlaen i sefydlu ei gwfen ei hun. Wrth sefydlu'r cwfen cyntaf hwn, cyflwynodd ef dechnegau dewiniaeth seremonïol. Honnodd ef iddo gael ei ynydu gan ei fam-gu Gymraeg, Mary Bibby (née Roberts),[1] yn blentyn, ond mae ymchwil ddiweddar wedi gwrthbrofi'r honiad hwn, gan y bu farw ei fam-gu ym 1907, rhyw 19 mlynedd cyn i Sanders gael ei eni.[1]

Yn ystod y 1960au, ymddangosodd ef yn y papurau ac ar gyfryngau eraill yn aml, gan gynnwys nifer o raglenni dogfen. Priododd ef â dynes llawer iau nag ef o'r enw Maxine Sanders, a dechreuodd y rhai a ynydwyd ganddo ei alw yn "Frenin y Gwrachod". Nid oedd ambell i Wrach Gardneraidd yn hoff iawn o hyn, gan gynnwys Patricia Crowther ac Eleanor Bone, ac felly gwrthodont ef. Ynghyd â Maxine Sanders ac Archoffeiriadesau eraill, datblygodd Sadners ei draddodiad Wicaidd. Yn y 1970au a'r 1980au hwyr, sefydlodd ef grŵp dewiniaeth seremonïol o'r enw Ordine Della Luna, cyn iddo farw ym 1988.

Bywyd cynnar

Ganed yn Orrell Alexander Bibby, ar 6 Mehefin 1926, yn Ysbyty St. Catherine (56 Church Road, Tranmere, Birkenhead),[2] Sanders oedd y plentyn hynaf o blith ei bum sibling arall. Orrell Alexander Carter (hefyd a elwir yn Harold Sanders) oedd enw ei dad, a dywed mai diddanwr oedd ef tra mai gwas domestig oedd ei fam, Hannah Jane Bibby; ni phriodont â'i gilydd. Bu'r teulu yn byw gyda mam-gu tad Alex, Elizabeth Carter (née Gandy), yn 1 Moon Street, Birkenhead, am gyfnod, ond symudont i Cornbrook Street, Old Trafford, Manceinion. Yno, newidiont eu cyfenw yn Sanders yn answyddogol; nid oedd Alex yn ymwybodol o hyn nes iddo ymgeisio am basbort yn hwyrach yn ei fywyd, a newidiodd ef ei enw yn swyddogol yn y1960au.[2][3]

Ar adeg ei eni, cofrestrodd ef yn Orrell Alexander Bibby, ond cofrestrwyd ei chwaer, Joan (ganed ym 1928), a'i frawd, Thomas (ganed ym 1929), yn Carter yn Birkenhead. Cofrestrwyd gweddill ei siblingiaid, Patricia (1933), John R (1934), a David (1937), yn Sanders yn Barton, Manceinion.

Defod newid byd

Ceir gwahanol fersiynau ar sut yr ynydwyd Sanders yn Wrach, gan gynnwys nifer ganddo ef ei hunan gydag anghysondebau. Dywed June Johns ym mywgraffiad Sanders, King of the Witches, fod Alex yn mynd i ymweld â'i fam-gu heb iddi gael gwybod, a'i fod yn dod ar ei thraws wrth iddi berfformio defod. Yn hapus bod Sanders heb gnocio er mwyn tynnu ei sylw, gofynnodd Bibby i Sanders ddadwisgo, a'i bod yn mynd i "sicrhau na fyddwch yn dweud wrth neb am yr hyn dy fod wedi'i weld yma heddiw," gan ychwanegu "os wyt ... bydda i'n dy ladd di."[4]

Serch hynny, mae'r honiad hwn wedi cael ei wrthbrofi yn fawr. Dywed Wibberley (2018):[5]

These documents, prepared in 2018 and recently made publically available through the Alexandrian Witchcraft Timeline & Archive, show beyond a doubt that the story of Alex’s childhood initiation at the hands of his maternal grandmother Mary Bibby (née Roberts) is not credible as an accurate historical account of events. Records show Mary passing away in 1907, when Alex’s own mother would have been only four years old. The report puts it succinctly: “Mary could have had no direct influence on Alex as she did not live long enough to raise her own children so that [Alex’s claims to have had interaction with her] are demonstrably false”

In the research article by Kotva, S., "Was Alex initiated by his grandmother? Remarks on the recent ancestry report of Alex Sanders" (Emmanuel College, Cambridge), based on research by Wibberley, C. (2018) “Report on the Ancestry of Alex Sanders 1926-1988.” Alexandrian Witchcraft Timeline & Archive. www.alexandrianwitchcraft.org/report-on-the-ancestry-of-alex-sanders-1926-1988/

Dywed Archoffeiriades Gardneriadd Patricia Crowther stori wahanol. Yn ôl llythyron a gafodd hi oddi wrth Alex ym 1961, nid oedd, ar y pryd, yn dweud ei fod wedi'i ynydu, ond yr oedd ganddo, ymhellach, gysylltiad cryf gyda'r ocwlt ac iddo brofi'r ail olwg.[6] Mewn cyfweld ym 1962, honnodd Sanders ei fod wedi'i ynydu ers blwyddyn bellach, a'i fod yn gweithio mewn cwfen dan arweinyddiaeth dynes o Nottingham.[6] Mae Maxine Sanders wedi cadarnhau'r honiad hwn; hi ydy gwraig ac Archoffeiriades dyfodol Sanders.[2] (Gweler Wica isod)

Nodiadau

  1. 1.0 1.1 Wibberley, C. (2018).
  2. 2.0 2.1 2.2 "A Talk by Maxine Sanders" part 1, Witchcraft and Wicca Issue 3, p. 4. London: Children of Artemis.
  3. Johns, June (1969). King of the Witches. New York: Coward-McCann, Inc.
  4. Johns, J (1969). King of the Witches: The World of Alex Sanders. London: Peter Davies. t. 12-13.
  5. Wibberley, C. (2018).
  6. 6.0 6.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Triumph

Cyfeiriadau