Metamorffosis (llyfr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
|eitem7=978-1-5272-8579-8 <br> (E-lyfr: 978-1-5272-9128-7) |
|eitem7=978-1-5272-8579-8 <br> (E-lyfr: 978-1-5272-9128-7) |
||
|testun7=ISBN |
|testun7=ISBN |
||
|eitem8=Llyfr: clawr |
|eitem8=Llyfr: clawr-feddal<br>E-lyfr: epub |
||
|testun8=Fformatiau |
|testun8=Fformatiau |
||
|eitem9= |
|eitem9= |
Fersiwn yn ôl 19:14, 16 Ebrill 2021
Delwedd:Metamorffosis - gan Franz Kafka, wedi'i addasu ar gyfer ddysgwyr Cymraeg.jpg | |
Awdur | Franz Kafka |
---|---|
Addasiad o | Die Verwandlung, 1915 |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Llyfr i ddysgwyr Cymraeg |
Cyhoeddwyd | Haf 2021 |
Cyhoeddwyr | Iawn.Cymru |
ISBN | 978-1-5272-8579-8 (E-lyfr: 978-1-5272-9128-7) |
Fformatiau | Llyfr: clawr-feddal E-lyfr: epub |
Mae’r llyfr Metamorffosis yn addasiad o Die Verwandlung gan yr awdur Franz Kafka. Mae'r testun wedi'i gyfieithu ac addasu ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Fe'i gyhoeddwyd gan Iawn.Cymru.
Y gwaith a’r awdur
Ysgrifennwyd y gwreiddiol yn Almaeneg ac fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1915 mewn cylchgrawn llenyddol misol.
Mae'r stori'n adrodd hanes Gregor Samsa sydd yn deffro un bore i ddarganfod ei fod wedi'i newid i mewn i rhyw fath o bryf ffiaidd. Nid yw'r rheswm dros y newid byth yn cael ei egluro. Wrth geisio deall beth sydd wedi digwydd iddo mae Gregor yn disgrifio ymateb ei deulu a sut mae ei gyflwr newydd yn codi arswyd arnyn nhw. Mae’r gwaith wedi profocio dehongliadau di-ri. [1]
Daeth waith Kafka yn hynod o ddylanwadol yn ystod ail hanner yr 20 ganrif gan ysbrydoli nifer fawr o ysgrifenwyr, beirdd ac artistiad cerddorol.
Cyfieithiadau
Mae’r Metamorffosis yn un o weithiau enwocaf Kafka ac wedi'i gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd y byd.
Mae’n bosib gyfieithu teitl y llyfr Die Verwandlung fel 'Y Cyfnewid' neu 'Y Metamorffosis'.
Cyfieithwyd y fersiwn iaith Sbaeneg yn gyntaf gan yr awdur enwog Jorge Luis Borges yn 1935. [2]
Mae brawddeg agoriadol y bennod gyntaf yn yr Almaeneg wreiddiol, a sut i gyfieithu i beth mae Gregor bellach wedi newid iddo, wedi cael eu hastudio a'u trafod ledled y byd. Mae llawer o gyfieithiadau yn dweud fod Gregor wedi'i gyfnewid i bryf. Ond yn y fesiwn gwreiddiol mae'r geiriau Almaeneg ungeheures Ungeziefer yn awgrymu ei fod yn 'fermin anferthol' neu 'ysglyfaeth enfawr'.
Fersiwn i ddysgwyr Cymraeg
Mae'r addasiad Cymraeg 2021 wedi'i anelu at ddysgwyr Cymraeg lefel ganolradd ac yn defnyddio geirfa a ffurfiau gramadegol wedi'u symleiddio. Mae pob tudalen y llyfr yn cynnwys help i'r dysgwyr deall y geiriau a berfau.
Cyfeiriadau