Shane Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
DSisyphBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5) (robot yn ychwanegu: da:Shane Williams
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: pl:Shane Williams
Llinell 27: Llinell 27:
[[gl:Shane Williams]]
[[gl:Shane Williams]]
[[it:Shane Williams]]
[[it:Shane Williams]]
[[pl:Shane Williams]]
[[ru:Уильямс, Шейн]]
[[ru:Уильямс, Шейн]]

Fersiwn yn ôl 10:32, 11 Hydref 2011

Shane Williams yn gwisog crys y Gweilch

Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a Chymru yw Shane Mark Williams (ganed 26 Chwefror 1977). Mae'n chwarae fel asgellwr fel rheol, ond gall chwarae fel mewnwr neu fel maswr.

Ganed ef yn Abertawe, a bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno a'r Gweilch. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2000, pan sgoriodd gais.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr. Dewiswyd ef i fynd i Seland Newydd gyda'r Llewod yr un flwyddyn. Sgoriodd bum cais mewn gêm yn erbyn Manawatu.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio i Gymru, yn ei roi yn gydradd a Gareth Thomas fel y sgoriwr uchaf i Gymru. Yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y bencampwriaeth.

Enillodd yr anrhydedd o fod yn Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2008. Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 a'i gyfanswm i 45 cais.

Rhagflaenydd:
Joe Calzaghe
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2008
Olynydd:
Ryan Giggs